WEFO Ar-lein
Gall defnyddwyr cofrestredig fewngofnodi drwy fynd i Mewngofnodi ar gyfer WEFO Ar-lein
Defnyddwyr Cofrestredig
Mae WEFO Ar-lein ar gael rhwng 07:00 a 00:00 bob dydd (gwneir gwaith cynnal a chadw ar y system rhwng 00:00 a 07:00). Felly, dylai'r defnyddwyr gofio y byddant yn cael eu hallgofnodi o'r system yn awtomatig am 00:00 a byddant yn colli unrhyw ddata nad oeddent wedi’i arbed cyn hynny.
Sut i gofrestru
Mae'r tudalennau Gwneud Cais am Gyllid Ewropeaidd yn dangos i chi sut i ofyn am gael cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb (EOI) ar wefan WEFO. Ar ôl i chi ofyn, bydd WEFO'n cysylltu â chi er mwyn trafod eich syniad am brosiect. Pan fyddwch yn barod i gyflwyno eich Datganiad o Ddiddordeb yn ffurfiol, bydd WEFO'n anfon pecyn cofrestru atoch.
Fel rhan o'r broses gofrestru, bydd gofyn i sefydliadau gytuno i Delerau ac Amodau WEFO Ar-lein
Rhagor o wybodaeth
Mae WEFO Ar-lein, a ddatblygwyd mewn cydweithrediad â Capgemini, yn galluogi noddwyr prosiectau i:
- weld statws cyfredol prosiectau
- cwblhau datganiadau rhyngweithiol o ddiddordeb
- cyflwyno dogfennau ategol
- cyflwyno cynlluniau busnes wedi'u cwblhau
- cyflwyno tystiolaeth
- llenwi ffurflenni hawlio a thaliadau
- gweld adroddiadau monitro a dilysu
