Skip to content

Dangosyddion, Diffiniadau a Thystiolaeth Ofynnol Cronfa Gymdeithasol Ewrop

Dangosyddion, Diffiniadau a Thystiolaeth Ofynnol Cronfa Gymdeithasol Ewrop

Mae'r cyfarwyddyd hwn yn rhoi diffiniadau a manylion o'r tystioaleth sy'n angenrheidiol ar gyfer dangosyddion monitro a gwerthuso Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Y dangosyddion monitro yw'r allbynnau a'r canlyniadau; yr allbynnau yw'r gweithgareddau a wna'r prosiect a'r canlyniadau yw canlyniadau uniongyrchol y gweithgareddau hynny.  Mae'r canlyniadau'n dilyn y gweithgareddau ac yn adlewyrchu prif nodau eich prosiect.  Y dangosyddion gwerthuso yw'r effeithiau; yr effeithiau yw canlyniadau'r gweithgareddau yn y tymor hirach ac yn dilyn ymlaen o'r canlyniadau.  Felly, y dangosyddion canlyniadau ac effeithiau yw'r mathau pwysicaf o ddangosyddion.

Cwestiynau a Ofynnir yn Aml

O le daw’r diffiniad o Fudwr?

Y rheswm mae WEFO wedi cynnwys y categori hwn yw ei bod yn ofynnol yn ôl y Comisiwn i adrodd y data hwn fel rhan o Atodiad XXIII Rheoliadau Gweithredu’r Cronfeydd Strwythurol 2007-2013.

Mae’r arweiniad yn nodi y dylid darparu’r nifer gros o oriau, ond mae hefyd yn nodi’r hyn a gaiff ei ddosbarthu fel rhan-amser ac amser llawn. A oes angen i ni ddangos yr oriau, neu p’un a ydynt yn rhan-amser neu’n amser llawn?

Dylai noddwr y prosiect ddarparu nifer yr oriau a gaiff eu gweithio i WEFO a bydd WEFO yn gweithio allan p’un a yw’r cyfranogwyr yn gweithio amser llawn neu ran-amser.

Wedi sicrhau cyfweliad am swydd - beth yw’r ffrâm amser ar gyfer ateb y cwestiwn hwn?

Y ffrâm amser yw chwe mis ar ôl cwblhau’r ddarpariaeth.

O ran y diffiniad o gyfranogwyr, beth yw “lefel ystyrlon o ymgysylltu”?

Caiff hyn ei gytuno gyda’ch Swyddog Datblygu Prosiect cyn i’ch prosiect gael ei gymeradwyo.

Beth yw’r diffiniad o gyfranogwyr hŷn?

Diffiniad WEFO o gyfranogwr hŷn yw cyfranogwyr sy’n 50 oed ac yn hŷn.

A gaiff cyfranogwyr sy’n ymgymryd â dysgu pellach eu cyfrif yn nata’r cyfranogwyr os oeddent yn NEET ar ddechrau’r prosiect?

Cânt.

A oes arweiniad ynghylch yr angen am reolaeth rhieni er mwyn i gyfranogwyr sydd o dan 16 oed gymryd rhan yn y prosiect?

Mae angen caniatâd rhieni i gyfranogwyr sydd o dan 16 oed. Oni ellir sicrhau’r caniatâd hwn, dylid darparu ffug-gofnod.

A oes modd i un cyfranogydd gael ei gyfrif gan ddau wahanol brosiect am gymwysterau a enillir?

Os yw dau brosiect ar wahân yn helpu’r un unigolyn mewn cymwysterau ar wahân, yna gall y ddau brosiect hawlio’r cymwysterau.

A oes modd i un cyfranogydd gael ei gyfrif gan fwy nag un prosiect?

Mae modd cyfrif y cyfranogydd ond nid canlyniadau’r cyfranogydd. Os yw’r cyfranogydd yn cael cymorth gan fwy nag un prosiect, un prosiect yn unig a all hawlio’r canlyniad hwn e.e. os caiff un prosiect ei gyfeirio o un prosiect i’r llall, mae angen i’r ddau brosiect gytuno rhyngddynt pa prosiect a gaiff hawlio’r canlyniad. Os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am hyn, cysylltwch â WEFO.

A ellir dosbarthu cyfweliad ffurfiol ar gyfer gwaith fel canlyniad cadarnhaol?

Gellir, mae modd dosbarthu hyn fel canlyniad cadarnhaol.

A ellir cyfrif cyfranogwyr mewn addysg statudol sy’n mynd ymlaen i addysg bellach fel cyfranogwyr sy’n ymgymryd â dysgu pellach?

Gellir, mae modd cyfrif hyn fel dysgu pellach.

A ellir cyfrif pobl hunangyflogedig fel cyflogwyr?

Gellir.

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.