Dangosyddion, Diffiniadau a Thystiolaeth Ofynnol yr ERDF
Y dangosyddion monitro yw'r allbynnau a'r canlyniadau; yr allbynnau yw'r gweithgareddau a ymgymerir gan y prosiect a'r canlyniadau yw canlyniadau uniongyrchol y gweithgareddau hynny. Mae'r canlyniadau'n dilyn y gweithgareddau ac yn adlewyrchu prif nodau eich prosiect. Y dangosyddion gwerthuso yw'r effeithiau; yr effeithiau yw canlyniadau'r gweithgareddau yn y tymor hirach ac yn dilyn ymlaen o'r canlyniadau. Felly, y dangosyddion canlyniadau ac effeithiau yw'r mathau pwysicaf o ddangosyddion.
Cwestiynau Cyffredin
Pam mae WEFO yn casglu'r data hwn?
Mae WEFO yn ei gwneud yn ofynnol i bob prosiect gasglu swm cyfyngedig o ddata er mwyn sicrhau ei fod yn cyflawni rhwymedigaethau monitro a gwerthuso'r Comisiwn Ewropeaidd. Mae hyn hefyd yn galluogi WEFO i ddeall yn llawn effaith prosiectau a ariannwyd yn ogystal ag ateb cwestiynau gan Weinidogion Cymru, y cyhoedd ac ati.
Sut y dylai'r cydweithredu gael ei gyfrif yn y Dangosydd, 'Ymchwil a Datblygu Cydweithredol', lle mae busnes yn cydweithredu â mwy nag un SAU - ai dim ond un cydweithrediad ydyw o hyd neu a yw'n fwy nag un, yn dibynnu ar nifer y SAUau dan sylw?
Byddem yn disgwyl i'r allbwn fod yn un gan mai un prosiect ymchwil a datblygu cydweithredol ydyw. Fodd bynnag, byddem yn disgwyl gweld mwy o ganlyniadau, megis "lansio cynnyrch, proses neu wasanaethau newydd neu well", h.y. canlyniad ar gyfer pob SAU. Y nifer uwch o ganlyniadau yn sgil cydweithredu o'r fath sy'n bwysig a dyna sy'n dangos ei werth ychwanegol yn hytrach na'r allbynnau.
Pa gyfeiriad sydd angen ei roi yn y gronfa ddata Mentrau, cyfeiriad y busnes cofrestredig neu'r cyfeiriad lle gwelir y buddiannau?
Y cyfeiriad lle gwelir y buddiannau sydd angen ei roi.
A oes angen i mi gynnwys enw'r Fenter yn y gronfa ddata Mentrau ac os oes, ble?
Oes - o dan linell cyfeiriad 1
Manylion cyswllt pwy y dylid eu cynnwys o dan enw a chyfeiriad cyswllt yn y gronfa ddata Mentrau?
Unigolyn o fewn y sefydliad sydd wedi bod ynghlwm wrth y cymorth a roddwyd
