Skip to content

Canllawiau monitro a gwerthuso

Canllawiau monitro a gwerthuso




Mae monitro a gwerthuso yn brosesau pwysig iawn i’ch helpu i reoli’ch prosiect newydd yn effeithiol a chynhyrchu’r canlyniadau gorau yn brydlon, darparu tystiolaeth sut mae’ch prosiect wedi llwyddo a rhannu tystiolaeth o’ch arferion gorau gydag eraill. Bydd yn cyfrannu hefyd at asesiad cyffredinol o sut mae’r Cronfeydd Strwythurol yn gweithio yng Nghymru.

Cynllun monitro a gwerthuso

Efallai bod gan eich sefydliad/mudiad drefniadau manwl eisoes ar gyfer monitro a gwerthuso, ond rhaid gofalu bod eich cynlluniau a’ch trefniadau’n bodloni safonau WEFO a’r Comisiwn Ewropeaidd, eu bod yn dangos y systemau a’r dangosyddion y byddwch yn eu defnyddio ac yn esbonio sut y byddwch yn gwerthuso prosiectau.

Bydd disgwyl ichi baratoi’ch cynllun monitro a gwerthuso yn ystod proses datblygu’ch prosiect.  Bydd WEFO wrth law i roi cyngor ichi ym mhob cam o ddatblygiad eich prosiect.  Bydd eich cynllun monitro a gwerthuso’n rhan o becyn tystiolaeth eich prosiect.

Cyngor a rhagor o wybodaeth

Mae cyngor ar Fonitro a Gwerthuso i’w gael ar y wefan hon i’ch helpu i ddatblygu cynllun monitro a gwerthuso’ch prosiect.  Mae rhagor o wybodaeth ar gael hefyd, gan gynnwys diffiniadau o ddangosyddion yr ERDF a’r ESF, adrodd ar y swyddi sydd wedi’u creu ac enghreifftiau o dempledi ar gyfer casglu data.

Os oes gennych gwestiynau am fonitro a gwerthuso’ch prosiect, cysylltwch yn gyntaf â Swyddog Datblygu Prosiectau WEFO, a fydd yn pasio’ch ymholiad at Dîm Ymchwil, Monitro a Gwerthuso WEFO ichi gael cyngor pellach.

Dangosyddion, Diffiniadau a Thystiolaeth Ofynnol Cronfa Gymdeithasol Ewrop

22/03/13
Mae'r cyfarwyddyd hwn yn rhoi diffiniadau a manylion o'r tystioaleth sy'n angenrheidiol ar gyfer dangosyddion monitro a gwerthuso Cronfa Gymdeithasol Ewrop.
 

Dangosyddion, Diffiniadau a Thystiolaeth Ofynnol yr ERDF

15/03/13
Mae'r cyfarwyddyd hwn yn rhoi diffiniadau a manylion o'r tystioaleth sy'n angenrheidiol ar gyfer dangosyddion monitro a gwerthuso ERDF.
 

Templed ar gyfer Cronfa Ddata Buddiolwyr

20/06/12
Mae’r daenlen ganlynol (gan gynnwys y penawdau sefydlog) yn dangos y fformat y bydd WEFO am gael y data ynddo sydd eu hangen ar gyfer cronfa ddata’r Cyfranogydd, Menter ac ERDF Unigol. Bydd Swyddog Datblygu Prosiect WEFO yn cytuno â chi wrth ddatblygu’r prosiect pa mor aml y bydd angen ichi ddarpar ...
 

Y swyddi gros sydd wedi’u creu

12/03/12
Gweler y diffiniad diwygiedig o Swyddi Gros. Os ydych yn credu y gwnaiff hyn effeithio ar eich prosiect, cysylltwch â’r tîm Ymchwil, Monitro a Gwerthuso neu’ch Swyddog Datblygu Prosiectau.
 

Cyfarwyddyd Monitro a Gwerthuso

05/08/09
Mae'r ddogfen hon yn cynnwys cyfarwyddyd i'ch cynorthywo i ddatblygu eich cynllun monitro a gwerthuso.
 

Dalen Crynhoi'r Gwerthusiad

05/08/09
Templed Dalen Crynhoi'r Gwerthusiad
 

Cylch Gorchwyl (gan gynnwys taflen sgorio tendro)

23/07/09
Dylai'r adran hon roi cyflwyniad byr i'r sefydliad, i'r prosiect ac i'r broses werthuso arfaethedig, gan gynnwys manylion am sut y mae'r broses werthuso yn bwysig i'r noddwr.