Skip to content

Canllawiau hawlio taliadau

Canllawiau hawlio taliadau




Mae WEFO wedi ymrwymo i brosesu taliadau cyn gynted â phosibl i noddwyr sy’n hawlio grantiau ar gyfer prosiectau sydd o dan raglenni’r Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd.

Mae’r Canllawiau i noddwyr sy’n hawlio taliadau yn cynnwys gwybodaeth i’ch helpu i gyflwyno hawliadau’n uniongyrchol i WEFO trwy WEFO Ar-lein, gwasanaeth rhyngrwyd diogel sy’n caniatáu i noddwyr ei ddefnyddio i rannu gwybodaeth a chwblhau busnes gydag WEFO dros y we. O wneud hyn, gallwn brosesu’r taliadau’n gynt.

Rhaid i’r noddwr lenwi ffurflenni hawlio’n llawn a’u cyflwyno ar yr adegau penodedig, hyd yn oed os nad oes rhagor o wariant ac nid yw taliad yn cael ei hawlio. Mae’r broses hon yn ein helpu i fonitro cynnydd eich prosiect yn erbyn y dangosyddion yn eich Proffil Darparu.

Hefyd, bydd yn rhaid i chi gyflwyno Rhestr Trafodion i ategu’r gwariant sy’n cael ei hawlio ac Adroddiad Cynnydd yn crynhoi cynnydd y prosiect yn ystod y cyfnod hawlio perthnasol.

Hefyd, rhaid i noddwyr gyflwyno Adroddiadau Archwilio/Cyfrifon blynyddol a therfynol i WEFO er mwyn tystio i’r gwariant sydd wedi’i hawlio ar gyfer y prosiect. Mae rhagor o fanylion yn yr adran canllawiau ar gynnal Archwiliadau Allanol ar Brosiectau.

I gael rhagor o wybodaeth

I gael help a chyfarwyddyd i hawlio taliad, cysylltwch â ni:

E-bost: WEFOPayments@wales.gsi.gov.uk neu ffoniwch Linell Gymorth WEFO ar 0845 010 3355.

Cyfarwyddiadau am cyfrifyddion adrodd

13/05/13
Lluniwyd y cyfarwyddiadau hyn gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) ar gyfer Rhaglenni Cronfeydd Strwythurol 2007-13. Bwriedir iddynt gael eu defnyddio gan gyfrifwyr adrodd pan fyddant yn darparu adroddiadau blynyddol a therfynol y cyfrifwyr ar gyfer prosiectau a ariennir dan y rhaglenni hyn.
 

Nodyn cyfarwyddyd ar dalu am wariant (trafodion â siec)

16/11/09
Rhoi cyfarwyddyd i noddwyr prosiect ar y modd yr ymdrinnir â thrafodion â siec wrth hawlio taliadau oddi wrth Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO).
 

Trefniadau Hawlio

28/10/09
Darperir y canllaw Trefniadau Hawlio er mwyn eich cynorthwyo i lenwi’ch ffurflen hawlio ar-lein ar gyfer Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd 2007-13. Mae’n bwysig ichi ddarllen a chydymffurfio â holl adrannau’r canllaw hwn, gan gynnwys yr atodiadau, sy’n cynnwys gwybodaeth bwysig.
 

Rhestr Drafodion

18/10/09
Rhaid cynnwys rhestr drafodion gyda phob ffurflen hawlio a gyflwynir. Bydd methu â chyflwyno’r wybodaeth hon yn golygu y bydd taliadau grant yn cael eu hatal.
 

Adroddiad Cynnydd

03/07/09
Rhaid cynnwys adroddiad cynnydd gyda phob hawliad a gyflwynir. Bydd angen cyflwyno templed yr adroddiad Cynnydd gyda’r hawliad trwy WEFO Ar-lein.