Rheolau Gwladol Cymru ar Gymhwyster Gwariant Rhaglenni Strwythurol Ewropeaidd 2007-2013
Mae'r Deyrnas Unedig, fel Aelod Wladwriaeth, yn cydnabod awdurdod deddfwriaethol y gweinyddiaethau datganoledig ac mewn cytundeb â'r Comisiwn Ewropeaidd (CE) mae'r DU wedi penderfynu y bydd y Rheolau Gwladol ar gymhwyster gwariant yn cael eu llunio ar lefel Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
O ganlyniad gwnaeth Gweinidogion Cymru gan weithredu drwy Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO, yr awdurdod rheoli ac ardystio mewn perthynas â Chronfeydd Strwythurol Cymru, ddatblygu'r Rheolau Gwladol (y Rheolau) canlynol yn unol â Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1083/2006 Erthygl 56 paragraff 4 sy'n nodi:
The Rules on the eligibility of expenditure shall be laid down at national level subject to the exceptions provided for in the specific Regulations for each Fund. They shall cover the entirety of the expenditure declared under the operational programme
