Canllawiau polisi cyffredinol
Mae’r dogfennau cyfarwyddyd wedi cael eu datblygu i helpu noddwyr gynllunio eu prosiectau yn gytûn a rheoliadau Ewropeaidd a meini prawf arall.
06/11/12
Arweiniad yw hwn i awgrymu pa bethau y dylid eu hystyried wrth derfynu prosiect a pha arferion gorau y dylech eu cadw mewn cof pan fyddwch yn terfynu eich prosiect.
28/09/12
Diben y nodyn hwn yw rhoi canllawiau pellach ynghylch hyblygrwydd o ran cymhwysedd daearyddol neu wariant y tu allan i ddalgylch rhaglenni Cydgyfeirio a Chystadleurwydd Cymru 2007-2013.
27/09/12
Mae’r nodyn hwn ar gyfer holl noddwyr prosiectau Cronfa Gymdeithasol Ewrop ac mae’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu hyfforddiant diogelwch yn y gweithle. O’r flwyddyn academaidd 2012-13 ymlaen, rhaid i unrhyw gyrsiau hyfforddiant Diogelwch yn y Gweithle a roddir i weithwyr o fewn prosiecta
...
06/09/12
Derbyn cymorth o gronfa strwythurol ynghylch y gofynion o ran rheoli/cadw dogfennau, er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â rheoliadau Ewropeaidd.
23/07/12
Dyma roi gwybod ichi am rai newidiadau sydd wedi’u gwneud i’r Trothwyon Caffael mewn perthynas â hysbysiadau o 1 Ionawr 2012.
13/07/12
Rhoi canllawiau ychwanegol mewn perthynas â'r prif brosiectau (sy'n berthnasol i Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) yn unig)
31/10/11
Mae’r nodyn hwn yn rhoi canllawiau pellach ar y costau ac arian cyfatebol mewn da sy’n gymwys o dan raglenni Cronfeydd Strwythurol Cymru 2007-2013 a chanllawiau ynghylch gofynion archwilio perthnasol y Comisiwn Ewropeaidd.
24/10/11
Fel egwyddor gyffredinol, dylai refeniw sy’n cael ei gynhyrchu gan brosiect sy’n cael ei gydariannu gan gronfa strwythurol yn ystod ei gyfnod gweithredu, neu o ganlyniad i’w weithredu, gael ei ystyried yn ystod y broses arfarnu.
16/09/11
Mae'r nodyn cyfarwyddyd hwn yn nodi'r amodau y mae'n rhaid eu bodloni er mwyn cynnwys gwaith prydlesu fel gwariant cymwys.
13/09/11
Cynhyrchwyd y canllawiau gwybodaeth a chyhoeddusrwydd hyn gan i sicrhau fod mesurau gwybodaeth a chyhoeddusrwydd yn cael eu hintegreiddio’n llawn i mewn i drefniadau ar gyfer cyflawni prosiectau.
24/08/11
I roi mwy o arweiniad i noddwyr prosiectau ar ddefnyddio'r cyfleuster hyblygrwydd / egwyddor trawsariannu o dan Raglenni 2007-2013 yng Nghymru
24/01/11
Darparu canllawiau ychwanegol i noddwyr prosiectau ynghylch pwy sy'n gymwys i gael costau staffio ar gyfer prosiectau cronfeydd strwythurol.
19/10/10
Rhoi mwy o eglurhad ynghylch modelau nawdd, yn unigol ac ar y cyd, a modelau darparu ar gyfer rhoi prosiectau ar waith yn y rhaglenni a ariennir gan yr UE 2007-2013. Maent yn cymryd lle'r canllawiau Nawdd, Partneriaeth, Caffael a Grantiau.
09/09/10
Costau anuniongyrchol yw'r costau hynny na ellir eu cysylltu'n uniongyrchol â'r gwaith o weithredu prosiect a lle mae'n anodd priodoli gwariant.
18/08/10
Er mwyn sicrhau y cydymffurfir â rheoliadau Ewropeaidd, mae disgwyl i noddwyr prosiectau / rheolwyr cronfeydd ar gyfer cyllidebau ar gyfer cronfeydd datblygu trefol (JESSICA) fuddsoddi mewn prosiectau sydd wedi'u cynnwys o fewn "Cynllun Integredig ar gyfer Datblygiad Trefol Cynaliadwy" yn unig.
18/08/10
Mae'r Deyrnas Unedig, fel Aelod Wladwriaeth, yn cydnabod awdurdod deddfwriaethol y gweinyddiaethau datganoledig ac mewn cytundeb â'r Comisiwn Ewropeaidd (CE) mae'r DU wedi penderfynu y bydd y Rheolau Gwladol ar gymhwyster gwariant yn cael eu llunio ar lefel Cymru, Lloegr, yr Alban a Gog
...
15/03/10
O Hydref 2010, mae’r arweiniad hwn yn cael ei ddisodli gan canllawiau ar Fodelau Nawdd a Darparu.
12/10/09
Diben unrhyw brosiect sy'n cael cymorth ariannol gan yr UE yw cyflawni'r Blaenoriaethau a'r Themâu a nodir yn y Dogfennau Rhaglenni Gweithredol y cytunwyd arnynt gyda'r Comisiwn Ewropeaidd. Mae'r Blaenoriaethau a’r Themâu hynny yn cyd-fynd â Pholisïau a Strategaethau'r UE a
...
30/07/09
Disgrifiad cryno a syml yw hwn o sut y gall sefydliadau wneud cais i Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) am gymorth ariannol ar gyfer prosiectau.
28/07/09
Canllawiau i'r Trydydd Sector ar fanteisio ar Raglenni Gweithredol 2007-2013 yng Nghymru
27/07/09
Diben y canllawiau hyn yw rhoi i gyrff yn y sector Addysg Bellach fwy o eglurder ynglŷn â’u rolau posibl fel noddwyr prosiectau, cyd-noddwyr a darparwyr uniongyrchol yn Rhaglen Gydgyfeirio a Rhaglen Cystadleurwydd a Chyflogaeth Rhanbarthol 2007-2013.
25/07/09
Mae'r matrics canlynol yn amlinellu'r meini prawf a ddefnyddir i ddewis, blaenoriaethu ac i gymeradwyo cynigion ar gyfer prosiectau.
23/07/09
Term a ddefnyddir gan y Comisiwn Ewropeaidd yw cymorth gwladwriaethol am unrhyw adnoddau cyhoeddus a roddir ar sail ddewisol i fentrau sy'n ymwneud â gweithgarwch economaidd a allai, o bosibl, effeithio ar gystadleuaeth a masnach rhwng yr Aelod-wladwriaethau. Gall cymorth cyhoeddus ffafraethol
...
22/07/09
Mae’r ddogfen hon yn esbonio cyfrifoldebau noddwyr prosiectau a darparwyr arian cyfatebol cyhoeddus o ran cydymffurfio â rheoliadau cymorth gwladwriaethol a pharatoi adroddiadau blynyddol.
19/07/09
Nodyn cyfarwyddyd i noddwyr prosiectau posibl ynghylch ceisiadau ôl-weithredol am gyllid Ewropeaidd o dan raglenni Cronfa Strwythurol Cymru 2007-2013.
