Skip to content

Gweithgarwch Trawswladol o fewn y Rhaglenni Cydgyfeirio a Cystadleurwydd a Chyflogaeth Rhanbarthol

Gweithgarwch Trawswladol o fewn y Rhaglenni Cydgyfeirio a Cystadleurwydd a Chyflogaeth Rhanbarthol




Mae elfen newydd o'r Rhaglenni Cronfeydd Strwythurol prif-ffrwd (2007-13) yn ein galluogi i gynnwys camau trawswladol a rhyngranbarthol mewn prosiectau. Mae hyn yn rhoi cyfle pwysig i ddatblygu cysylltiadau a phartneriaethau, ac ychwanegu gwerth at brosiectau Cymru, drwy gydweithredu mewn meysydd sydd o ddiddordeb inni ac Aelod-wladwriaethau eraill.

Mae gridiau sy'n nodi'r gwledydd hynny sydd wedi cynnwys yn eu Rhaglenni eu hunain flaenoriaethau tebyg i'r rheini sydd gennym yng Nghymru wedi'u llunio. Fodd bynnag, dylid edrych ar y rheini fel rhai dangosol yn unig, ac mae rhagor o wybodaeth am Raglenni pob Aelod-wladwriaeth, ynghyd â manylion cyswllt pob awdurdod rheoli, ar gael ar wefan y Comisiwn.

Mae rhagor o gwybodaeth ERDF a ESF (cysylltiadau allanol) ar gael ar safle y we y Comisiwn.

Cynllun Cefnogi Partneriaethau Ewropeaidd (SEPs)

04/11/10
Mae’r Cynllun yn darparu cymorth ariannol i sefydliadau yn erbyn y costau teithio a chynhaliaeth yr eir iddynt i deithio dramor i geisio neu gyfarfod â phartneriaid posibl, yn amodol ar y rheolau a’r meini prawf cymhwyso.
 

Cwestiynau cyffredin

05/01/10
Ar gyfer y cyfnod rhaglennu 2007-13, yn Rhaglenni Cydgyfeirio a Chystadleurwydd a Chyflogaeth Rhanbarthol yr ERDF a’r ESF, ac ym mhob Blaenoriaeth a Thema, gwnaethpwyd darpariaeth i “support trans-national (and inter-regional actions), in particular through the sharing of information, experiences, ...
 

Strategaeth Cydweithio Tiriogaethol ar gyfer gwella cydweithio rhwng cenhedloedd a rhanbarthau eraill o fewn yr Undeb Ewropeaidd

10/11/09
Cynhwysir rhai awgrymiadau o gamau y credwn eu bod yn addas i weithgarwch trawswladol, dan bob un o'r Blaenoriaethau o fewn Rhaglenni Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Chronfa Gymdeithasol Ewrop, yn y "Strategaeth Cydweithio Tiriogaethol".
 

Matrics Blaenoriaeth Ewropeaidd

10/11/09
Yn y ddogfen hon, mae pecyn cyfeirio cyflym i'r Aelod-wladwriaethau hynny yr ydym ni'n credu sydd â blaenoriaethau sy'n cyd-fynd a blaenoriaethau Cronfeydd Datblygu Rhanbarthol Ewrop yng Ngnymru.
 

Matrics Blaenoriaeth Ewropeaidd Cronfeydd Strwythurol Ewrop

10/11/09
Yn y ddogfen hon, mae pecyn cyfeirio cyflym i'r Aelod-wladwriaethau hynny yr ydym ni'n credu sydd â blaenoriaethau sy'n cyd-fynd a blaenoriaethau Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd yng Ngnymru.