Canllawiau Ynghylch Llenwi Ffurflenni Cais Y Gronfa Arian Cyfatebol A Dargedwyd Ar Gyfer Rhaglenni Cydweithredu Tiriogaethol
Nod y canllawiau yn y ddogfen hon yw helpu ymgeiswyr i lenwi ffurflen gais y Gronfa Arian Cyfatebol a Dargedwyd (TMF). Rhaid i ymgeiswyr hefyd gyflwyno’r cais cyfatebol ar gyfer Cronfeydd Strwythurol, y maent yn ceisio arian cyfatebol ar ei gyfer, fel tystiolaeth ategol. Gallai peidio â chynnwys y cais ar gyfer Cronfeydd Strwythurol arwain at wrthod y cais ar gyfer TMF.
Mae ffurflen gais TMF yn gofyn am wybodaeth ychwanegol i’r hyn sydd yn y cais ar gyfer Cronfeydd Strwythurol ac felly mae copïo a gludo o un i’r llall yn annhebygol o ddarparu’r wybodaeth a geisir. Ni ystyrir ceisiadau nad ydynt yn cynnwys y wybodaeth angenrheidiol. Pennir terfyn ar nifer geiriau, er mwyn ysgafnhau baich gwaith ymgeiswyr.
Rhaid i ymgeiswyr gwblhau pob rhan o’r ffurflen yn llawn. Ni dderbynnir ceisiadau anghyflawn ar gyfer eu hystyried.
Rhaid i ymgeiswyr gwblhau pob rhan o’r ffurflen yn llawn. Ni dderbynnir ceisiadau anghyflawn ar gyfer eu hystyried.
