Skip to content

Gronfa Arian Cyfatebol a Dargedir

Gronfa Arian Cyfatebol a Dargedir




Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu’r Gronfa Arian Cyfatebol a Dargedir (TMF) i ddarparu arian cyfatebol canolog i raglenni Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd 2007-2013.

Gwneud cais i’r TMF

 Yn dilyn Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant ym mis Hydref 2010, bu'n rhaid i'r datganiad ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar 17 Tachwedd adlewyrchu gostyngiadau sylweddol mewn cyfalaf. Mae'r TMF felly wedi'i ostwng.

Ni ellir derbyn rhagor o geisisdau TMF am gymorth cyfalaf ond gellir gwneud cais o hyd am gymorth refeniw TMF. Caiff y ceisiadau am gymorth refeniw eu hystyried ar yr un pryd â'r Cronfeydd Strwythurol cysylltiedig.

Cronfa pan fetha popeth arall yw’r TMF; felly bydd angen i ymgeiswyr ddangos eu bod wedi cymryd pob cam posibl i gael arian cyfatebol o ffynonellau eraill cyn troi at y TMF.

Rhaid i chi wneud y canlynol cyn gwneud cais i’r TMF:

   1. Rhaid sicrhau eich bod yn darllen canllawiau cyffredinol TMF a'r Graddau Blaenoriaethu gwahanol ar gyfer y Themâu;
   2. Rhaid cysylltu â’ch swyddog cyswllt perthnasol yn Uned Cydweithredu Tiriogaethol WEFO;

   3. Rhaid sicrhau eich bod yn darllen canllawiau cais TMF cyn llenwi ffurflen gais TMF;
   4. Rhaid cyflwyno ceisiadau am arian o’r gronfa TMF drwy gyfrwng eich swyddog cyswllt yn WEFO, fel sydd wedi ei nodi uchod
   5. Os bydd eich cais TMF yn llwyddiannus, bydd eich Swyddog Cyswllt yn WEFO yn anfon telerau ac amodau y grant TMF atoch.

Y Gronfa Arian Cyfatebol A Dargedir - Canllawiau I Ymgeiswyr Ar Gyfer Rhaglenni Cydweithredu Tiriogaethol

16/06/09
Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu’r Gronfa Arian Cyfatebol a Dargedir (TMF) er mwyn darparu arian cyfatebol canolog, fel cronfa pan fetho popeth arall, ar gyfer Rhaglenni Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd 2007-13.
 

Amodau grant y Gronfa Arian Cyfatebol a Dargedir yng nghyswllt prosiectau

16/06/09
Amodau grant y Gronfa Arian Cyfatebol a Dargedir yng nghyswllt prosiectau
 

Blaenoriaethau TMF

16/06/09
Cytunwyd ar y rhengoedd Blaenoriaethu â Thema ar ôl ymgynghori â'r rhanddeiliaid. Maent yn adlewyrchu lefel y galw a ddisgwylir ar y Gronfa Arian Cyfatebol a Dargedir pan fetha popeth arall ac ar ôl asesu ffynonellau ariannu amgenach sydd ar gael i gefnogi gweithgareddau o dan Blaenoriaeth a/ne ...
 

Canllawiau Ynghylch Llenwi Ffurflenni Cais Y Gronfa Arian Cyfatebol A Dargedwyd Ar Gyfer Rhaglenni Cydweithredu Tiriogaethol

16/06/09
Nod y canllawiau yn y ddogfen hon yw helpu ymgeiswyr i lenwi ffurflen gais y Gronfa Arian Cyfatebol a Dargedwyd (TMF). Rhaid i ymgeiswyr hefyd gyflwyno’r cais cyfatebol ar gyfer Cronfeydd Strwythurol, y maent yn ceisio arian cyfatebol ar ei gyfer, fel tystiolaeth ategol. Gallai peidio â chynnwys y ...
 

Y Gronfa Arian Cyfatebol A Dargedir Ffurflen Gais Ar Gyfer Rhaglenni Cydweithredu Tiriogaethol

16/06/09
Gofynnir i chi ddychwelyd y ffurflen gais, wedi’i llofnodi, at y swyddog cyswllt yn WEFO sy’n gyfrifol am y rhaglen gyfatebol yng Nghronfeydd Strwythurol yr Undeb Ewropeaidd.
 

Dolenni perthnasol

Rhoi Arian Cyfatebol i raglenni Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd 2007–2013