Gronfa Arian Cyfatebol a Dargedir
Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu’r Gronfa Arian Cyfatebol a Dargedir (TMF) i ddarparu arian cyfatebol canolog i raglenni Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd 2007-2013.
Gwneud cais i’r TMF
Yn dilyn Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant ym mis Hydref 2010, bu'n rhaid i'r datganiad ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar 17 Tachwedd adlewyrchu gostyngiadau sylweddol mewn cyfalaf. Mae'r TMF felly wedi'i ostwng.
Ni ellir derbyn rhagor o geisisdau TMF am gymorth cyfalaf ond gellir gwneud cais o hyd am gymorth refeniw TMF. Caiff y ceisiadau am gymorth refeniw eu hystyried ar yr un pryd â'r Cronfeydd Strwythurol cysylltiedig.
Cronfa pan fetha popeth arall yw’r TMF; felly bydd angen i ymgeiswyr ddangos eu bod wedi cymryd pob cam posibl i gael arian cyfatebol o ffynonellau eraill cyn troi at y TMF.
Rhaid i chi wneud y canlynol cyn gwneud cais i’r TMF:
1. Rhaid sicrhau eich bod yn darllen canllawiau cyffredinol TMF a'r Graddau Blaenoriaethu gwahanol ar gyfer y Themâu;
2. Rhaid cysylltu â’ch swyddog cyswllt perthnasol yn Uned Cydweithredu Tiriogaethol WEFO;
- Ar gyfer Rhaglen Iwerddon/Cymru:
- Gogledd Cymru – Roger Seddon
- De-orllewin Cymru – Patrick Lilly
- Ar gyfer Rhaglenni IVC Rhyngwladol a Rhyngranbarthol: Mike Ford
4. Rhaid cyflwyno ceisiadau am arian o’r gronfa TMF drwy gyfrwng eich swyddog cyswllt yn WEFO, fel sydd wedi ei nodi uchod
5. Os bydd eich cais TMF yn llwyddiannus, bydd eich Swyddog Cyswllt yn WEFO yn anfon telerau ac amodau y grant TMF atoch.
