Skip to content

Rhaglenni eraill yr UE

Rhaglenni eraill yr UE

URBACT

Mae URBACT yn Raglen Ewropeaidd sy'n ceisio annog dinasoedd Ewrop i rannu eu profiadau â’i gilydd, a hefyd ddatblygu a dosbarthu gwybodaeth am yr holl faterion sy'n gysylltiedig â datblygu trefol cynaliadwy. Her URBACT II yw gwella effeithiolrwydd polisïau trefol integredig a chynaliadwy yn Ewrop, gyda golwg ar weithredu Strategaeth Ewropeaidd Lisbon-Gothenburg (Blaenoriaeth - Cystadleurwydd, Twf a Swyddi).

Amcanion URBACT:

  • Darparu dull o gyfnewid gwybodaeth a dysgu ar gyfer pobl sy'n gwneud penderfyniadau ynghylch polisïau, ac ymarferwyr a gweithredwyr eraill sy'n gysylltiedig â'r gwaith o ddatblygu polisïau trefol. Mae URBACT II yn gyfrwng i rannu gwybodaeth er mwyn sefydlu Rhwydweithiau Thematig a Gweithgorau, a elwir yn "Brosiectau". Mae pob prosiect yn cynnwys dinasoedd yn bennaf. Ond gall awdurdodau lleol, prifysgolion a chanolfannau ymchwil gymryd rhan hefyd.
  • Dysgu oddi wrth y trafodaethau rhwng partneriaid URBACT sy'n rhannu profiadau ac arferion da. Dod i gasgliadau ac adeiladu arnynt drwy ddefnyddio dull gweithio thematig ac arbenigedd.
  • Lledaenu arferion da a'r gwersi a ddysgwyd o'r trafodaethau i bob dinas yn Ewrop. Drwy wneud hyn, mae URBACT II yn annog dinasoedd i weithio er lles dinasoedd.
  • Helpu gwneuthurwyr polisi'r dinasoedd, ac ymarferwyr a rheolwyr rhaglenni gweithredol i baratoi cynlluniau gweithredu. Rhaid i weithgareddau URBACT gael effaith wirioneddol ar yr arferion a’r polisïau lleol yn ymwneud â datblygu trefol cynaliadwy.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan URBACT, sef

INTERACT

Mae Rhaglen INTERACT yn hyrwyddo ac yn cefnogi dulliau da o reoli Rhaglenni Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd.

  • Mae'n targedu sefydliadau a chyrff sy'n gyfrifol am reoli a gweithredu Rhaglenni Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd.
  • Mae'n darparu cymorth ar gyfer rhaglenni drwy gydol eu hoes.
  • Mae'n canolbwyntio ar dechnegau rheoli, materion yn ymwneud â chyfeiriad strategol, a rhwydweithiau sefydliadol a thematig.
  • Mae'n mynd ati i gasglu sylwadau defnyddwyr yn rheolaidd ac yn eu cynnwys gymaint â phosibl yn y broses o weithredu'r rhaglen.
  • Mae'n creu ac yn cryfhau proses barhaus sy’n caniatáu i sefydliadau a chyrff gyfnewid gwybodaeth a dysgu oddi wrth ei gilydd a chyda’i gilydd er mwyn cryfhau cydweithredu tiriogaethol.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan INTERACT, sef.

ESPON

Diben rhaglen ESPON 2013 (Rhwydwaith Arsylwi Ewrop ar gyfer Datblygiad a Chydlyniant Tiriogaethol) yw helpu i ddatblygu polisïau mewn ymdrech i sicrhau cydlyniant tiriogaethol a datblygu tiriogaeth Ewrop mewn ffordd gytûn.

Mae 75% o gyllideb €47 miliwn y rhaglen yn cael ei rhoi gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop o dan Amcan 3 ar gyfer Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd. Mae gweddill yr arian yn dod o'r 31 gwlad sy'n rhan o'r rhaglen sef pob un o 27 Aelod-wladwriaeth yr UE ynghyd â Gwlad yr Iâ, Liechtenstein, Norwy a'r Swistir.

Buddiolwyr posibl

Gwahoddir cyrff cyhoeddus a phreifat (sefydliadau ymchwil, prifysgolion, gwyddonwyr, arbenigwyr, timau academaidd) o 31 o wledydd (27 aelod yr UE (dolen allanol), Gwlad yr Iâ, Liechtenstein, Norwy a'r Swistir) i wneud cais.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan ESPON.