Skip to content

Rhaglen Gogledd-Orllewin Ewrop

Rhaglen Gogledd-Orllewin Ewrop

Rhaglen Gogledd-orllewin Ewrop yw olynydd y Rhaglen INTERREG IIIB Gogledd-orllewin Ewrop. Bydd yn cefnogi gweithgareddau i hybu’r economi sy’n seiliedig ar wybodaeth, ac i reoli adnoddau naturiol a chymunedau mewn modd cynaliadwy. Mae’n cynnwys y DU (gan gynnwys Cymru gyfan), Iwerddon, Gwlad Belg, Lwcsembwrg ac ardaloedd o Ffrainc, yr Almaen, yr Iseldiroedd a’r Swistir.
Map o Ardal Weithredol Gogledd Orllewin EwropMae’r blaenoriaethau wedi’u nodi yn y Rhaglen weithredol y cytunwyd arni gan y Comisiwn Ewropeaidd ar 26 Medi 2007. Ni fydd y gyfradd ymyrraeth ar gyfer y blaenoriaethau yn uwch na 50% o’r costau cymwys. Cyfanswm y gyllideb ERDF yw €355 miliwn.

Rhanbarth y Nord-Pas de Calais, sydd â’i ganolfan yn Lille yn Ffrainc, yw’r Awdurdod Rheoli. Yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol yn Llundain sy’n cydgysylltu ar ran y DU.

Sut i wneud cais am arian

Mae’r rhaglen yn gweithredu cylchoedd ceisiadau.

Mae gwefan Rhaglen Gogledd-orllewin Ewrop yn rhoi gwybodaeth ynghylch sut i wneud cais am arian, yn ogystal â sut i gofrestru syniadau prosiect ar-lein. Bydd rhestr o syniadau prosiect sydd wedi’u cofrestru eisoes ar gael yn ôl blaenoriaeth a gwlad.
Mae Cysylltiadau ar gael ar gyfer partneriaid sydd am drafod eu cynigion prosiect.

Hynt y rhaglen

O rowndiau 1 i 9, cyfanswm o 13 o brosiectau sy'n cynnwys partneriaid Cymru wedi derbyn cymeradwyaeth gyda gwobr Prosiect y grantiau o fwy na € 48m.

Mae Galw 10eg gau ar 11 Mai 2012. 54 geisiadau eu hystyried yn gymwys ac ar hyn o bryd cael asesiad gael ei ystyried yng nghyfarfod y Pwyllgor Monitro Rhaglenni nesaf.

Canllawiau ar gyfer ymgeiswyr

Mae’r Gyd-ysgrifenyddiaeth Dechnegol wedi ein hatgoffa y byddant yn glynu’n llym wrth y meini prawf ar gyfer cymhwyso a dethol o dan y rhaglen. Mae’r Gyd-ysgrifenyddiaeth Dechnegol wedi llunio Nodyn Cyfarwyddyd 5, sy’n crynhoi’r meini prawf allweddol ar gyfer cymhwyso/dethol a chanllawiau cyffredinol ar geisiadau ar gyfer noddwyr. Sylwer - mae hwn yn cael ei adolygu a gall gael ei newid o dan gylchoedd ceisiadau - gweler gwefan Gogledd-orllewin Ewrop.
Canllawiau Cyffredinol ar gyfer ymgeiswyr;

  • Ceisiwch fod yn benodol a chanolbwyntio ar brif amcanion y prosiectau, ceisiwch beidio â chynnwys gormod o bynciau, am y bydd hyn yn arwain at golli ffocws. Bod yn syml yw’r nod.
  • Mae cynlluniau cyfathrebu da yn anhepgor, yn ogystal â thystiolaeth ymarferol o weithio mewn partneriaeth mewn modd integredig.
  • Nid oes rheidrwydd ffurfiol i brosiect fod o faint arbennig, boed yn fawr neu yn fach. Yr hyn sy’n cyfrif yw ansawdd y cyfan, sy’n rhoi’r hyblygrwydd i brosiect fod yn fwy, ar yr amod bod yr ansawdd yn cynyddu i’r un graddau.
  • Rhaid darllen y paragraffau yn rhaglen Weithredol Gogledd-orllewin Ewrop sy’n nodi’r Cryfderau, Gwendidau, Cyfleoedd a’r Bygythiadau o safbwynt Rhaglen Gogledd-orllewin Ewrop ar gyfer pob blaenoriaeth a’r rhesymau pam y’i dewiswyd. Bydd cysylltu’r rhain â’r hyn y mae eich sefydliad am ei wneud dros yr ychydig flynyddoedd nesaf yn eich helpu i nodi syniadau prosiect sy’n cyd-fynd â dyheadau Rhaglen Gogledd-orllewin Ewrop.

Cysylltiadau

Dolenni perthnasol

Cymeradwyaethau yn cynnwys partneriaid Cymraeg
The NW E Secretariat are offering individual meetings on the 3rd and 13th April 2012 (individual Sessions of 1hr 15min) in Lile (France)
The NWE Programme will hold two important activities on 5th and 6th June in Dortmund, Germany