Rhaglen Gogledd-Orllewin Ewrop
Mae’r blaenoriaethau wedi’u nodi yn y Rhaglen weithredol y cytunwyd arni gan y Comisiwn Ewropeaidd ar 26 Medi 2007. Ni fydd y gyfradd ymyrraeth ar gyfer y blaenoriaethau yn uwch na 50% o’r costau cymwys. Cyfanswm y gyllideb ERDF yw €355 miliwn.Rhanbarth y Nord-Pas de Calais, sydd â’i ganolfan yn Lille yn Ffrainc, yw’r Awdurdod Rheoli. Yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol yn Llundain sy’n cydgysylltu ar ran y DU.
Sut i wneud cais am arian
Mae’r rhaglen yn gweithredu cylchoedd ceisiadau.
Mae gwefan Rhaglen Gogledd-orllewin Ewrop yn rhoi gwybodaeth ynghylch sut i wneud cais am arian, yn ogystal â sut i gofrestru syniadau prosiect ar-lein. Bydd rhestr o syniadau prosiect sydd wedi’u cofrestru eisoes ar gael yn ôl blaenoriaeth a gwlad.
Mae Cysylltiadau ar gael ar gyfer partneriaid sydd am drafod eu cynigion prosiect.
Hynt y rhaglen
O rowndiau 1 i 9, cyfanswm o 13 o brosiectau sy'n cynnwys partneriaid Cymru wedi derbyn cymeradwyaeth gyda gwobr Prosiect y grantiau o fwy na € 48m.
Mae Galw 10eg gau ar 11 Mai 2012. 54 geisiadau eu hystyried yn gymwys ac ar hyn o bryd cael asesiad gael ei ystyried yng nghyfarfod y Pwyllgor Monitro Rhaglenni nesaf.
Canllawiau ar gyfer ymgeiswyr
Mae’r Gyd-ysgrifenyddiaeth Dechnegol wedi ein hatgoffa y byddant yn glynu’n llym wrth y meini prawf ar gyfer cymhwyso a dethol o dan y rhaglen. Mae’r Gyd-ysgrifenyddiaeth Dechnegol wedi llunio Nodyn Cyfarwyddyd 5, sy’n crynhoi’r meini prawf allweddol ar gyfer cymhwyso/dethol a chanllawiau cyffredinol ar geisiadau ar gyfer noddwyr. Sylwer - mae hwn yn cael ei adolygu a gall gael ei newid o dan gylchoedd ceisiadau - gweler gwefan Gogledd-orllewin Ewrop.
Canllawiau Cyffredinol ar gyfer ymgeiswyr;
- Ceisiwch fod yn benodol a chanolbwyntio ar brif amcanion y prosiectau, ceisiwch beidio â chynnwys gormod o bynciau, am y bydd hyn yn arwain at golli ffocws. Bod yn syml yw’r nod.
- Mae cynlluniau cyfathrebu da yn anhepgor, yn ogystal â thystiolaeth ymarferol o weithio mewn partneriaeth mewn modd integredig.
- Nid oes rheidrwydd ffurfiol i brosiect fod o faint arbennig, boed yn fawr neu yn fach. Yr hyn sy’n cyfrif yw ansawdd y cyfan, sy’n rhoi’r hyblygrwydd i brosiect fod yn fwy, ar yr amod bod yr ansawdd yn cynyddu i’r un graddau.
- Rhaid darllen y paragraffau yn rhaglen Weithredol Gogledd-orllewin Ewrop sy’n nodi’r Cryfderau, Gwendidau, Cyfleoedd a’r Bygythiadau o safbwynt Rhaglen Gogledd-orllewin Ewrop ar gyfer pob blaenoriaeth a’r rhesymau pam y’i dewiswyd. Bydd cysylltu’r rhain â’r hyn y mae eich sefydliad am ei wneud dros yr ychydig flynyddoedd nesaf yn eich helpu i nodi syniadau prosiect sy’n cyd-fynd â dyheadau Rhaglen Gogledd-orllewin Ewrop.
Cysylltiadau
- Joint Technical Secretariat (Lille)
- Gwefan: www.nweurope.org
- Contact Point: Paula Maclachlan
- Cysylltiad WEFO: Mike Ford
