Skip to content

Seminar Prif Ymgeiswyr INTERREG IVC

Seminar Prif Ymgeiswyr INTERREG IVC

Bydd y Rhaglen INTERREG IVC yn cynnal Seminar Prif Ymgeiswyr INTERREG IVC ym Mhrag/Gweriniaeth Tsiec a hefyd, bydd yn cynnal sesiwn Ymgynghori Unigol ar ôl y seminar. Trefnir y seminar gan Brif Ymgeiswyr sydd wedi'u lleoli i'r Dwyrain a'r Gorllewin o ardal y rhaglen.

Gan mai galw am gynigion ar gyfer prosiectau ar Gyfalafu y byddwn ni nesa, bydd y seminar bresennol yn canolbwyntio ar hyn hefyd. (I ymgeiswyr sydd wedi’i lleoli i’r De a’r Gogledd o ardal y rhaglen, caiff yr un seminar ei chynnal ar 14-15 Ionawr 2010).

Gellir lawrlwytho rhagor o wybodaeth am brosiectau Cyfalafu o’r wefan:

Mae’r wybodaeth ar gael yn adran 2.1.2 o Lawlyfr y Rhaglen - http://www.interreg4c.net/projects.html

neu o’n taflen wybodaeth– Prif nodweddion y rhaglenni Cyfalafu - http://www.interreg4c.net/Programme.html#_333

Cynhelir y seminar ar 20 Ionawr 2010 yng Ngwesty’r President ym Mhrag, Nám. Cyfeiriad y gwesty yw Curieových 100, Prague 1, Y Weriniaeth Tsiec a chynhelir y seminar yn ystafell gynadledda Velazquez

Bydd gan unrhyw un sydd â diddordeb mewn datblygu prosiectau cyfalafu INTERREG IVC y cyfle i gymryd rhan mewn gweithdai rhyngweithiol ac i drafod agweddau ymarferol o ddatblygu prosiectau.

Cynhelir yr ymgynghoriadau unigol ar 21 Ionawr 2010, hefyd yng Ngwesty’r President ym Mhrag.

Yn ystod yr ymgynghoriadau unigol, bydd cyfle i drafod syniadau ar gyfer prosiectau gyda chydweithwyr o Gyd-ysgrifenyddiaeth Dechnegol INTERREG IVC yn ogystal â gyda chydweithwyr o Fan Gwybodaeth Gorllewinol a Man Gwybodaeth Dwyreiniol INTERREG IVC.

Dyddiad cau ar gyfer cofrestru ar gyfer y seminarau a’r ymgynghoriadau yw 18 Rhagfyr 2009. Anfonwch eich ffurflen cofrestru wedi’i llenwi at IP-West@interreg4c.eu.

Dewisir y cyfranogwyr ar gyfer y seminar ar sail yr wybodaeth a roddir yn y ffurflen gofrestru.

Anfonir cadarnhad at yr ymgeiswyr llwyddiannus rhwng 4 - 8 Ionawr 2010.  Peidiwch â mynd ati i wneud unrhyw drefniadau teithio nes eich bod wedi cael cadarnhad.

Dolenni perthnasol

Mae’n cynnwys 27 yr UE gan gynnwys Norwy a’r Swistir
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.