Skip to content

Rhaglen Traws Gwladol Ardal yr Iwerydd

Rhaglen Traws Gwladol Ardal yr Iwerydd

Mae'r rhaglen hon sy'n canolbwyntio ar faterion arforol yn cysylltu rhanbarthau ar arfordir yr Iwerydd mewn pum Aelod-wladwriaeth: y DU (gan gynnwys y cyfan o Gymru), Iwerddon, Ffrainc, Sbaen a Phortiwgal.

Map o Ardal yr IweryddY blaenoriaethau yw Hyrwyddo Rhwydweithiau Arloesi Entrepreneuraidd a Thrawsgenedlaethol; Amddiffyn, Sicrhau a Gwella Cynaliadwyedd yr Amgylchedd Morol ac Arfordirol; Gwella Hygyrchedd a Chysylltiadau Mewnol; a Hyrwyddo Synergeddau Trawsgenedlaethol o fewn Datblygu Trefol a Rhanbarthol Cynaliadwy, fel a esbonnir yn y Rhaglen weithredol a gytunwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd ar 20 Medi 2007. Y gyfradd ymyrraeth uchaf yw 65% o'r costau cymwys, o fewn cyfanswm cyllideb ERDF o €104 miliwn.

Yr Awdurdod Rheoli ar gyfer y rhaglen yw CCDR Norte, sydd â'i ganolfan yn Porto ym Mhortiwgal.  WEFO sydd â'r swyddogaeth gydgysylltu arweiniol o fewn y DU, a'r Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol (CLG) yn Llundain sydd â'r cyfrifoldeb cyffredinol.

Compendiwm o Brosiectau

Mae compendiwm o brosiectau ar gael ar wefan Ardal yr Iwerydd.

Arolwg Paratoi 

Mae Awdurdod Rheoli Rhaglen Ardal yr Iwerydd wedi agor Arolwg paratoi ar gyfer Rhaglen yr Iwerydd 2012-2020. Lleisiwch eich barn.

Hysbysiad pwysig o cyfleoedd ariannu
4ydd Galwad yn agor

Mae 4ydd galwad am brosiectau yn agor. Bydd dau gam ar gyfer yr alwad hon, y gyntaf yn Mynegiadau o Ddiddordeb (EOI) sy'n agor ar y 29ain Ionawr 2013 a bydd yn cau ar 15 Mawrth 2013, ac yn ail, cam ymgeisio llawn i ddilyn ar ôl cwblhau'r cyfnod broses EOI. Bydd yr holl 4 blaenoriaethau  yn agor a disgwylir mai dyma fydd yr alwad olaf i ddefnyddio'r holl arian y rhaglen sy'n weddill. Ewch i wefan Ardal yr Iwerydd am fanylion pellach ar yr alwad hon.

Fe’ch cynghorir yn gryf i gysylltu â'r Pwynt Cyswllt y DU, Heather Silcox (E-bost: Ffôn hsilcox@gmail.com: 07554455466) a fydd yn gallu eich helpu gyda'ch EOI / y ffurflen gais.

Galwad estyniad i bartneriaid presennol

Mae galwad estyniad yn awr ar agor i bartneriaid eisoes yn cymryd rhan mewn prosiectau cymeradwy (naill ai ar y gweill neu wedi'u cwblhau). Gweler y ddolen berthnasol ar y dde am fwy o wybodaeth.

Hynt y rhaglen

Galwad Cyntaf - Cafodd y Gyd-ysgrifenyddiaeth Dechnegol yn Porto 68 o geisiadau yn ateb i'r alwad gyntaf, ac yr oedd 43 ohonynt yn cynnwys partneriaid o'r DU. Yn dilyn penderfyniad y PMRh ar y 4/5 o Tachwedd 2008, cynigiwyd cymeradwyaeth amodol neu gymeradwyaeth lawn i 24 p brosiectau. Roedd partneriaid o'r DU gan 17 o'r prosiectau hynny, 7 ohonynt yn bartneriaid o Gymru.

Yr Ail Galwad - Cafodd y Gyd-ysgrifenyddiaeth Dechnegol yn Porto 78 o geisiadau yn ateb i’r ail alwad, ar yr oedd 51 ohonynt yn cynnwys partneriaid o’r DU. Yn dilyn penderfyniad y PMRh ar y 24/25 o Tachwedd 2009, cynigiwyd cymeradwyaeth amodol neu gymeradwyaeth lawn i 24 brosiectau. Roedd partneriaid o’r DU gan 19 o’r prosiectau hynny, 9 ohonynt yn barteriaid o Gymru.

Y Drydedd Alwad - Cafodd y Gyd-ysgrifenyddiaeth Dechnegol 30 o geisiadau yn ateb i’r ail alwad, ac yr oedd 18 ohonynt yn cynnwys partneriaid o’r DU. Yn dilyn penderfyniad y PMRh, cynigiwyd cymeradwyaeth i 10 brosiect. Roedd partneriaid o’r DU gan 9 o’r prosiectau hynny, 1 ohonynt yn bartneriaid o Gymru.

Pwyllgor Monitro'r Rhaglen

Cyfarfu'r Pwyllgor ym Melfast, Gogledd Iwerddon (4-5 Tachwedd 2008), Santiago de Compostela, Sbaen (23-24 Tachwedd 2009) ac yn Nulyn, Iwerddon (27-28 Hydref 2011) i ddewis prosiectau o dan yr alwad 1af, yr 2il alwad a'r 3edd alwad am geisiadau.

Cysylltiadau

Dolenni perthnasol

Gan gymryd i ystyriaeth yr arian presennol ag arian i gael ei ryddhau gan rai prosiectau yn y mis nesaf, mae cyfleuster estyn prosiect wedi cael ei chynllunio.
Prosiectau cymeradwy sy'n cynnwys partneriaid Cymreig a'r DU
A training and information seminar for Lead Partners of new projects will be organised in Porto on 17 & 18 April.
Atlantic Area Annual event - 7th December 2012