Skip to content

Y Timau Ewropeaidd Arbenigol (TEG)

Y Timau Ewropeaidd Arbenigol (TEG)

Mae'r timau'n darparu cymorth, gwybodaeth a chyngor yn rhad ac am ddim i unrhyw un yng Nghymru sydd am fanteisio ar Gronfeydd Strwythurol Ewropeaidd.

Pwy gall y TEG ei helpu?

  • Cyrff a sefydliadau’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector ynghyd ag unigolion i gael arian Ewropeaidd yng Nghymru.
  • Sefydliadau neu fusnesau sy’n datblygu neu’n rheoli prosiectau Ewropeaidd a ariennir trwy’r rhaglenni Cydgyfeirio neu Gystadleurwydd a Chyfl ogaeth rhanbarthol.
  • Prosiectau sydd am ymgysylltu â phartneriaid neu â sefydliadau cyflenwi posibl yn lleol neu’n rhanbarthol.

Sut mae’r TEG yn gallu helpu?

Gallwn:

  • eich helpu i weithio gyda Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru i ddatblygu eich prosiectau.
  • helpu i’ch rhoi mewn cysylltiad â sefydliadau eraill, rhanddeiliaid, partneriaid posibl a sefydliadau arian cyfatebol a allai fod â diddordeb yn eich cynigion prosiect neu eich syniadau am brosiectau tebyg, a gallwn ni helpu mewn trafodaethau â hwy.
  • eich helpu i ddeall strategaethau, cynlluniau gweithredu a chanllawiau perthnasol.
  • eich helpu i ddeall sut y mae eich prosiect yn ‘cyd-fynd’ â’r blaenoriaethau a’r fframweithiau strategol perthnasol.
  • roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am raglenni, prosiectau neu gyfl eoedd ariannu eraill.
  • eich helpu trwy’r broses gaffael i weithredu prosiectau’r UE.
  • eich hysbysu am gyfl eoedd i dendro am waith gweithredu prosiectau eraill yr UE.
  • darparu rhwydwaith o gymorth a chyngor arbenigol i noddwyr prosiectau yn ystod pob cam o’r gwaith datblygu a gweithredu.

Pwy sy’n cymryd rhan yn Rhwydwaith y TEG?

Rhwydwaith o arbenigwyr ar gyllid Ewropeaidd yw'r Timau Ewropeaidd Gofodol. Maent yn gweithio mewn pedair rhan o Gymru - y de-ddwyrain, y de-orllewin, y canolbarth a'r gogledd, ac yn cynnwys y sefydliadau canlynol:

  • Llywodraeth Cymru
  • Awdurdodau Lleol
  • Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC)