Y Timau Ewropeaidd Arbenigol (TEG)
Mae'r timau'n darparu cymorth, gwybodaeth a chyngor yn rhad ac am ddim i unrhyw un yng Nghymru sydd am fanteisio ar Gronfeydd Strwythurol Ewropeaidd.
Pwy gall y TEG ei helpu?
- Cyrff a sefydliadau’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector ynghyd ag unigolion i gael arian Ewropeaidd yng Nghymru.
- Sefydliadau neu fusnesau sy’n datblygu neu’n rheoli prosiectau Ewropeaidd a ariennir trwy’r rhaglenni Cydgyfeirio neu Gystadleurwydd a Chyfl ogaeth rhanbarthol.
- Prosiectau sydd am ymgysylltu â phartneriaid neu â sefydliadau cyflenwi posibl yn lleol neu’n rhanbarthol.
Sut mae’r TEG yn gallu helpu?
Gallwn:
- eich helpu i weithio gyda Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru i ddatblygu eich prosiectau.
- helpu i’ch rhoi mewn cysylltiad â sefydliadau eraill, rhanddeiliaid, partneriaid posibl a sefydliadau arian cyfatebol a allai fod â diddordeb yn eich cynigion prosiect neu eich syniadau am brosiectau tebyg, a gallwn ni helpu mewn trafodaethau â hwy.
- eich helpu i ddeall strategaethau, cynlluniau gweithredu a chanllawiau perthnasol.
- eich helpu i ddeall sut y mae eich prosiect yn ‘cyd-fynd’ â’r blaenoriaethau a’r fframweithiau strategol perthnasol.
- roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am raglenni, prosiectau neu gyfl eoedd ariannu eraill.
- eich helpu trwy’r broses gaffael i weithredu prosiectau’r UE.
- eich hysbysu am gyfl eoedd i dendro am waith gweithredu prosiectau eraill yr UE.
- darparu rhwydwaith o gymorth a chyngor arbenigol i noddwyr prosiectau yn ystod pob cam o’r gwaith datblygu a gweithredu.
Pwy sy’n cymryd rhan yn Rhwydwaith y TEG?
Rhwydwaith o arbenigwyr ar gyllid Ewropeaidd yw'r Timau Ewropeaidd Gofodol. Maent yn gweithio mewn pedair rhan o Gymru - y de-ddwyrain, y de-orllewin, y canolbarth a'r gogledd, ac yn cynnwys y sefydliadau canlynol:
- Llywodraeth Cymru
- Awdurdodau Lleol
- Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC)
