Mae'r Rhaglen Cystadleurwydd a Chyflogaeth Rhanbarthol wedi derbyn dros £110 miliwn o grant Ewropeaidd ar gyfer cylch rhaglennu newydd Cronfeydd Strwythurol Ewroepaidd 2007-2013.
Olynydd i raglenni Amcan 2 a 3 2000-2006 yw Cystadleurwydd, a bydd yn cynnwys ardal dearyddol 7 awdurdod lleol rhanbarth Cymru.
Mae Rhaglenni Cystadleurwydd a Chyflogaeth Rhanbarthol yn cynnwys cyllid o ddwy o Gronfeydd Strwythurol Ewropeaidd: Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd (ERDF) a Chronfa Gymdeithasol Ewropeaidd (ESF). Bydd tua £60 miliwn o gyllid ERDF yn cael ei sianelu trwy Lywodraeth Cymru er mwyn helpu i symud ymlaen gweddnewid economiadd, gymdeithasol ac amgylcheddol drwy helpu busnesau newydd a phresennol i dyfu a symud lan y gadwyn gwerth a chynyddu gwerth ychwanegol i swyddi. Bydd hefyd yn canolbwyntio ar adnewyddu cymundeau mwyaf difreintiedig Cymru, mynd i'r afael â newid hinsawdd.Ychyaig dros £43 miliwn o'r ESF yn cael ei defnyddio i ddelio ag anweithgarwch economaidd, cynyddu sgiliau a chyflogaeth. Gyda arian cyfatebol o'r sectorau breifat, cyhoeddus a gwirfoddol, bydd y cyfanswm tua £280 miliwn.
Rhaglenni Gweithredol ERDF a ESF ar gyfer Cystadleurwydd Rhanbarthol
Datblygwyd Rhaglenni Gweithredol ar wahân ar gyfer pob un o'r rhaglenni Cystadleurwydd a Chyflogaeth Rhanbarthol ERDF ac ESF. Dogfennau cynllunio yw'r rhain yn eu hanfod, sy'n dangos sut y bydd cyllid yn cael ei wario yn Nwyrain Cymru.Mae'r dogfennau'n amlinellu’r Blaenoriaethau ar gyfer pob rhaglen sydd wedi’u seilio ar ddadansoddiadau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol o anghenion a chyfleoedd y rhanbarth, a meysydd gweithgaredd cymwys yn unol â Rheoliadau’r Comisiwn Ewropeaidd a Chyngor Ewrop.
08/10/09
Amlinellu ardaloedd y rhaglen.
30/03/09
Bydd rhaglen Cronfa Cymdeithasol Ewrop (ESF) yn defnyddio 47% o’r adnoddau o gyfanswm cyllid Cystadleurwydd Rhanbarthol a Chyflogaeth. Golyga hyn cyfraniad grant o dros €63,597,452 (tua £53 million) ac mae hynny, ynghyd ag arian cyfatebol, yn golygu cyfanswm buddsoddiad €158,343,623 (o gwmpas £130
...
30/03/09
Fe fydd y Rhaglen Cronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewropeaidd (ERDF) yn defnyddio 53% o gyllid Cystadleurwydd a Chyflogaeth Rhanbarthol. Yn gyfan gwbwl fe fydd gwerth y Rhaglen 2000-2007 dros €180,404,362 (o gympas £150 million), €72,451,721miliwn (tua £60 million) mewn grant ERDF a’r gweddill yn gylli
...