Skip to content

Cynnydd rhaglenni 2007–2013

Cynnydd rhaglenni 2007–2013

Mae rhaglenni Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd 2007-2013 yn buddsoddi mewn prosiectau a all helpu i gyflawni twf a swyddi cynaliadwy yng Nghymru.

Ar 30 Mai 2013, mae dros £1.89 biliwn o gyllid gan yr UE wedi'i gymeradwyo ar gyfer cyfanswm o 281 o brosiectau, sy'n cynrychioli buddsoddiad gwerth cyfanswm o dros £3.8 biliwn. Bydd y rhain yn helpu i greu dros 31,600 o gyfleoedd ar gyfer busnesau ac yn creu o leiaf 608,000 o gyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant ar gyfer unigolion ar draws Cymru.

Mae cyfanswm o dros £1.7bn wedi'i wario ar brosiectau'r UE (dros £830m o gyllid yr UE), ar sail hawliadau a gyflwynwyd gan noddwyr ac a dalwyd gan WEFO.

Gwerth Buddsoddiad y Chwefror hyd at 30 Ebrill 2013
(Holl ffigurau yn £m)
Cyfanswm Rhaglenni’r ERDF Rhaglenni’r ESF
Cronfeydd UE i Gymru 1,870.6 1,114.0 756.6
Cyfanswm y gronfeydd (gan gynnwys arian cyfatebol) 3,203.1 1,975.0 1,228.1
Cronfeydd UE ymrwymedig i prosiectau UE 1,895.8

1,141.2

754.5
Cyfanswm buddsoddiad ymrwymedig (gan gynnwys arian cyfatebol) 3,847.3

2,431.4

1,415.9

Gwariant o gyllid yr UE a hawliwyd ac a dalwyd gan WEFO 839.5 474.4 365.5
Cyfanswm gwariant gan prosiectau UE 1,779.4 1,063.2 716.2

d.s. Nodir cyllideb y rhaglenni mewn Ewros.  Amcangyfrifon yw’r ffigurau a nodir mewn punnoedd, a byddant yn amrywio gyda newidiadau yn y cyfraddau cyfnewid yn ystod y rhaglenni.

Canlyniadau Allweddol hyd at 30 Ebrill 2013
Canlyniadau Rhaglenni ERDF Rhaglenni ESF
Cyfranogwyr a gafodd gymorth amherthnasol 396,567
Cyfranogwyr a gafodd swyddi amherthnasol 47,892
Cyfranogwyr a enillodd gymwysterau amherthnasol 130,087
Mentrau a gafodd gymorth 10,801 amherthnasol
Mentrau a gafodd eu creu 5,946 amherthnasol
Swyddi (gros) a gafodd eu creu

19,167

amherthnasol


Nodwch: mae’r ffigurau’n seiliedig ar ganlyniadau sydd wedi’u gwireddu ac a gyflwynwyd gan noddwyr prosiectau.

Rhagor o wybodaeth am y rhaglenni, gan gynnwys manylion buddiolwyr

Yn unol â’r Rheoliadau Ewropeaidd, mae manylion buddiolwyr, enwau’r prosiectau a’r dyraniadau arian cyhoeddus (Ewropeaidd a Chenedlaethol) o dan raglen 2007–2013 hefyd ar gael.

Mae'r wybodaeth am raglen 2007-2013 hefyd ar gael mewn Datganiadau o Ddiddordeb a gyflwynir i WEFO a'r rheiny sydd o dan asesiad manwl.

Yn achos rhaglenni 2000-2006, mi fydd cronfa ddata ryngweithiol prosiectau cymeradwy (2000-2006) ar gael; bydd y gronfa ddata hon yn cael ei hymestyn yn gynnar yn 2010 i gynnwys y prosiectau a gymeradwyir o dan raglenni 2007-2013.  Am raglenni 2007-2013 gweler y ddolen 'Prosiectau 2007-2013 yr UE' ar y chwith.

Dolenni perthnasol

Diweddariad misol o'r prif ddangosyddion wedi'u dosbarthu dros ardaloedd yr Awdurdodau Unedol.