Cynnydd rhaglenni 2007–2013
Ar 30 Mai 2013, mae dros £1.92 biliwn o gyllid gan yr UE wedi'i gymeradwyo ar gyfer cyfanswm o 285 o brosiectau, sy'n cynrychioli buddsoddiad gwerth cyfanswm o dros £3.9 biliwn. Bydd y rhain yn helpu i greu dros 31,600 o gyfleoedd ar gyfer busnesau ac yn creu o leiaf 608,000 o gyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant ar gyfer unigolion ar draws Cymru.
Mae cyfanswm o dros £1.8bn wedi'i wario ar brosiectau'r UE (dros £860m o gyllid yr UE), ar sail hawliadau a gyflwynwyd gan noddwyr ac a dalwyd gan WEFO.
| Cyfanswm | Rhaglenni’r ERDF | Rhaglenni’r ESF | |
|---|---|---|---|
| Cronfeydd UE i Gymru | 1,870.6 | 1,114.0 | 756.6 |
| Cyfanswm y gronfeydd (gan gynnwys arian cyfatebol) | 3,203.1 | 1,975.0 | 1,228.1 |
| Cronfeydd UE ymrwymedig i prosiectau UE | 1,922.0 |
1,140.2 |
781.7 |
| Cyfanswm buddsoddiad ymrwymedig (gan gynnwys arian cyfatebol) | 3,890.5 |
2,430.8 |
1,459.7 |
| Gwariant o gyllid yr UE a hawliwyd ac a dalwyd gan WEFO | 860.7 | 491.5 | 369.2 |
| Cyfanswm gwariant gan prosiectau UE | 1,813.3 | 1,091.9 | 721.4 |
d.s. Nodir cyllideb y rhaglenni mewn Ewros. Amcangyfrifon yw’r ffigurau a nodir mewn punnoedd, a byddant yn amrywio gyda newidiadau yn y cyfraddau cyfnewid yn ystod y rhaglenni.
| Canlyniadau | Rhaglenni ERDF | Rhaglenni ESF |
|---|---|---|
| Cyfranogwyr a gafodd gymorth | amherthnasol | 398,232 |
| Cyfranogwyr a gafodd swyddi | amherthnasol | 48,226 |
| Cyfranogwyr a enillodd gymwysterau | amherthnasol | 130,443 |
| Mentrau a gafodd gymorth | 10,853 | amherthnasol |
| Mentrau a gafodd eu creu | 5,946 | amherthnasol |
| Swyddi (gros) a gafodd eu creu |
19,208 |
amherthnasol |
Nodwch: mae’r ffigurau’n seiliedig ar ganlyniadau sydd wedi’u gwireddu ac a gyflwynwyd gan noddwyr prosiectau.
Rhagor o wybodaeth am y rhaglenni, gan gynnwys manylion buddiolwyr
Yn unol â’r Rheoliadau Ewropeaidd, mae manylion buddiolwyr, enwau’r prosiectau a’r dyraniadau arian cyhoeddus (Ewropeaidd a Chenedlaethol) o dan raglen 2007–2013 hefyd ar gael.
Mae'r wybodaeth am raglen 2007-2013 hefyd ar gael mewn Datganiadau o Ddiddordeb a gyflwynir i WEFO a'r rheiny sydd o dan asesiad manwl.
Yn achos rhaglenni 2000-2006, mi fydd cronfa ddata ryngweithiol prosiectau cymeradwy (2000-2006) ar gael; bydd y gronfa ddata hon yn cael ei hymestyn yn gynnar yn 2010 i gynnwys y prosiectau a gymeradwyir o dan raglenni 2007-2013. Am raglenni 2007-2013 gweler y ddolen 'Prosiectau 2007-2013 yr UE' ar y chwith.
