Llif Gwaith y Rhaglenni ar ôl 2013
Mae pedwar grŵp Llif Gwaith arbenigol wedi’u sefydlu i ddatblygu rhaglenni cyllido Ewropeaidd yng Nghymru ar gyfer y cyfnod 2014-2020; a hefyd i ystyried y polisïau a’r manylion gweithredol sydd eu hangen i baratoi rhaglenni yn y dyfodol.
Y Llifiau Gwaith yw:
- Rhaglenni Gweithredol
- Darparu a Chydymffurfio
- Monitro a Gwerthuso
- Cydweithredu rhwng Tiriogaethau
Mae arbenigwyr o gyrff allanol yn perthyn i bob grŵp. Cawsant eu penodi yn unol â’u harbenigedd. Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru ar gael i helpu pob Llif Gwaith.
