Cyhoeddi cynigion y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer dyfodol y Cronfeydd Strwythurol ar ôl 2013
Mae rheoliadau drafft yr UE ar gyfer y Cronfeydd Strwythurol (dolen allanol), a gyhoeddwyd ar 6 Hydref, yn nodi dechrau'r broses o ddatblygu'r cylch nesaf o raglenni rhwng 2014 a 2020, a byddant yn destun trafod dros y 15 mis nesaf. Mae'r rheoliadau drafft yn amlinellu'r cynigion ar gyfer datblygu ymyriadau i wireddu amcanion Ewrop 2020 i sicrhau twf call, cynaliadwy a chynhwysfawr. Mae'r cynigion hefyd yn cynnwys gwneud defnydd gwell o offerynnau ariannol i gynnal prosiectau fel Cyd-adnoddau Ewropeaidd ar gyfer Busnesau Micro i Ganolig (JEREMIE) a Chyd-gymorth Ewropeaidd ar gyfer Buddsoddi Cynaliadwy mewn Ardaloedd Dinesig (JESSICA), a chysylltiad gwell rhwng rhaglenni'r UE gan gynnwys rhaglenni y Cronfeydd Strwythurol, datblygu gwledig a physgodfeydd, i helpu i'w gwneud yn haws cael cyllid Ewropeaidd a sicrhau'r effeithiau gorau posibl.
Ar ôl cyhoeddi'r rheoliadau drafft, cyhoeddodd Alun Davies AC, y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd, ddatganiad ysgrifenedig ar gynigion y Comisiwn.
