Skip to content

Adolygiad Guilford o Drefniadau Gweithredu

Adolygiad Guilford o Drefniadau Gweithredu




Mae adroddiad ar y trefniadau ar gyfer gweithredu Rhaglenni’r Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd o 2014 hyd 2020 wedi ei gyhoeddi.

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru wahodd Dr Grahame Guilford, sy’n aelod o’r bartneriaeth rhaglenni Ewropeaidd yng Nghymru ers tro, i arwain yr adolygiad o’r trefniadau ar gyfer defnyddio cyllid y Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd yn y cylch cyllido nesaf (2014 – 2020).

Fe wnaeth Dr Guilford asesu hynt y cylchoedd presennol a blaenorol, a nodi’r gwersi a ddysgwyd er mwyn sicrhau gwelliannau parhaus.

Fe wnaeth yr adolygiad hefyd roi sylw i integreiddio ffrydiau cyllid Ewropeaidd (gan gynnwys y Cronfeydd Strwythurol, Horizon 2020, Life+, Datblygu Gwledig a chronfeydd Pysgodfeydd), fel ei bod hi’n haws manteisio ar gyllid a’i ddefnyddio drwy ddull mwy integredig.

Ceir copi o’r adroddiad isod.

Buddsoddi mewn Twf a Swyddi: Adolygiad Annibynnol o’r Trefniadau ar gyfer Gweithredu Rhaglenni Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd 2014 - 2020

12/03/13
Mae adolygiad Dr Grahame Guilford yn dilyn ymchwil helaeth a thrafodaethau gyda rhanddeiliaid ledled Cymru.
 

Cylch Gorchwyl o'r adolygiad annibynnol

27/07/12
Adolygiad Annibynnol o’r trefniadau ar gyfer gweithredu rhaglenni Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd ar ôl 2013
 

Dolenni perthnasol

Prif offeryn ariannu’r Undeb Ewropeaidd ar gyfer hybu Ymchwil a Datblygiadau Technolegol ar draws Ewrop.
Mae Rhaglen Datblygu Gwledig yn rhan o strategaeth ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a'r Undeb Ewropeaidd.
Mae'n cael ei rheoli gan Lywodraeth Cymru ac mae wedi cymryd lle'r Offeryn Ariannol ar gyfer Cyfarwyddo Pysgodfeydd (FIFG)