Datblygu rhaglenni Ewropeaidd 2014-2020
Bydd unrhyw raglenni Cronfeydd Strwythurol y dyfodol yn parhau i geisio lleihau gwahaniaethau rhanbarthol a helpu i dosbarthu, ym mhartneriaeth, y strategaethau a pholisiau yr UE a Llywodraeth Cymru.
Yn y dyfodol bydd rhaglenni Ewropeaidd Cymru yn cynnwys rhaglenni’r Cronfeydd Strwythurol, datblygu gwledig a physgodfeydd. Mae’n bwysig datblygu’r rhaglenni hyn mewn ffordd gydgysylltiedig er mwyn sicrhau’r effaith fwyaf i’r wlad.
Bydd nifer o gyfleoedd dros y misoedd nesaf i bartneriaid chwarae rhan gyflawn yn y broses datblygu ôl 2013. Mae’r rhain yn cynnwys yr ymarfer myfyrio sydd newydd gael ei lansio (a fydd yn dod i ben 27 Ionawr 2012), y Fforwm Partneriaeth Rhaglenni Ewropeaidd a ffrydiau gwaith y dyfodol.
Bydd y gwaith paratoi cynnar hwn yn helpu i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn y sefyllfa orau i gynnal trafodaethau gyda Llywodraeth y DU a’r Comisiwn Ewropeaidd ar fanylion y rhaglenni yn ystod 2013, a helpu i sicrhau bod unrhyw raglen yn gallu cael ei lansio ddechrau 2014.
Digwyddiadau i bartneriaid
Os ydych chi'n cynllunio eich digwyddiadau eich hunain i drafod y Cronfeydd Strwythurol ar ôl 2013 a'r Polisi Cydlyniant, cysylltwch â ni. Mae'n bosibl y gallwn ni ddod i un o'r digwyddiadau neu roi cyngor i chi ar y materion hyn fel y gallwch eu cynnwys yn y drafodaeth a'u defnyddio i ddatblygu unrhyw raglenni newydd ar gyfer Cymru.
Cysylltwch â ni
Anfonwch unrhyw gwestiynau neu sylwadau ynghylch Cronfeydd Strwythurol ôl-2013 a'r Polisi Cynhwysiant at WEFO-Post2013Programmes@wales.gsi.gov.uk
