Y Rhaglen Dysgu Gydol Oes (LLP)
Mae'r LLP yn galluogi pobl o bob oed i gymryd rhan mewn profiadau dysgu ysgogol, ac yn cyfrannu at ddatblygu'r sector addysg a hyfforddiant ym mhob cwr o Ewrop.
Rhaglenni'r LLP
- Leonardo da Vinci: Mae'n ariannu prosiectau ymarferol sy'n gysylltiedig ag addysg a hyfforddiant galwedigaethol. Mae'r mentrau yn amrywiol ac maent yn cynnwys cynnal hyfforddiant sy'n gysylltiedig â gwaith dramor i unigolion a rhaglenni cydweithredu mawr. Mae'r rhaglen hon yn ariannu llawer o wahanol fathau o weithgareddau o wahanol feintiau. Mae'r rhain yn cynnwys mentrau ‘mudoledd’ sy'n galluogi pobl i ddilyn hyfforddiant mewn gwlad arall, prosiectau cydweithredu i drosglwyddo neu ddatblygu arferion arloesol, a rhwydweithiau sy'n canolbwyntio ar themau pynciol yn y sector.
- Grundtvig: Mae'n canolbwyntio ar anghenion dysgu ac astudio oedolion sy'n dilyn cyrsiau addysg a chyrsiau addysg ‘amgen’, yn ogystal â'r sefydliadau sy'n darparu'r gwasanaethau hyn. Ei nod yw helpu i ddatblygu'r sector addysg i oedolion a galluogi rhagor o bobl i ymgymryd â phrofiadau dysgu, yn enwedig mewn gwledydd Ewropeaidd eraill. Mae'n darparu ar gyfer athrawon, hyfforddwyr staff a sefydliadau yn y sector yn ogystal ag oedolion sy'n dysgu. Mae'r rhain yn cynnwys cymdeithasau perthnasol, sefydliadau cwnsela, gwasanaethau gwybodaeth, cyrff sy'n llunio polisïau a chyrff eraill fel cyrff anllywodraethol, mentrau, grwpiau gwirfoddol a chanolfannau ymchwil.
- Comenius: Mae'n canolbwyntio ar addysg ar bob lefel mewn ysgolion, o ddarpariaeth cyn ysgol i ysgolion cynradd ac uwchradd. Mae'n berthnasol i bawb sy'n ymwneud ag addysg mewn ysgolion; mae ar gyfer disgyblion ac athrawon yn bennaf ond mae'n berthnasol hefyd i awdurdodau lleol, cynrychiolwyr cymdeithasau rhieni, cyrff anllywodraethol, sefydliadau hyfforddi athrawon a phrifysgolion.
- Erasmus: Dyma yw rhaglen addysg a hyfforddi flaenllaw'r UE ac mae'n galluogi 200,000 o fyfyrwyr i astudio a gweithio dramor bob blwyddyn. Mae hefyd yn ariannu cydweithredu rhwng sefydliadau addysg uwch ledled Ewrop. Mae'r rhaglen yn cefnogi myfyrwyr, athrawon a staff busnes sydd am addysgu dramor ac yn helpu staff prifysgolion i gael hyfforddiant.
Caiff prosiectau eraill mewn meysydd sy'n berthnasol i addysg ar bob lefel eu hariannu drwy'r rhaglen Transversal (dolen allanol).
Sut mae gwneud cais am gyllid?
Cysylltwch ag asiantaethau cenedlaethol y DU (mae pob dolen a nodir isod yn ddolen allanol):
