Skip to content

Rhaglenni eraill yr UE

Rhaglenni eraill yr UE

Er bod sefydliadau Cymru yn gallu elwa ar raglenni'r Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd drwy Lywodraeth Cymru, cynigir llawer o raglenni eraill a ariennir gan gyllid Ewropeaidd yn ymwneud ag arloesi, addysg, datblygu gwledig a physgodfeydd.

O dan raglenni 2007–2013 y Cronfeydd Strwythurol, gellir cael mynediad at Gronfa Datblygu Gwledig Ewrop a Chronfa Gymdeithasol Ewrop drwy'r rhaglenni Cydgyfeirio a Chystadleurwydd a Chyflogaeth Rhanbarthol, a'r Rhaglenni Cydweithio Tiriogaethol.

Mae cronfeydd yr UE hefyd ar gael i sefydliadau ac unigolion drwy raglenni Ewropeaidd eraill:

  • Rhaglen Fframwaith 7 (FP7) ar gyfer arloesi
  • Y Rhaglen Dysgu Gydol Oes (LLP) ar gyfer addysg
  • Y Cynllun Datblygu Gwledig
  • Cronfa Pysgodfeydd Ewrop

Dolenni perthnasol

Mae’r Comisiwn Ewropeaidd yn darparu cyllid sy’n cefnogi ystod eang o weithgareddau drwy gyfrwng amrywiaeth o Ffynonellau Cyllido’r Undeb Ewropeaidd.