Rhaglen Weithredol Cydgyfeirio ESF
Bydd rhaglen Cronfa Cymdeithasol Ewrop (ESF) yn defnyddio 40% o’r adnoddau o gyfanswm cyllid Cydgyfeirio. Golyga hyn cyfraniad grant o €833,585,460 (tua £695 miliwn) ac mae hynny, ynghyd ag arian cyfatebol, yn golygu cyfanswm buddsoddiad €1,500,307,489 (o tua £1.2 biliwn) ar gyfer y cyfnod ariannu 2007-2013.
Mabwysiadwyd Rhaglen Weithredol Cydgyfeirio ESF yn ffurfiol gan Gomisiwn yr UE ar 09 Awst 2007.
Rhaglen Weithredol Cydgyfeirio ESF
Mae Rhaglen Weithredol Cydgyfeirio ESF wedi adnabod 5 prif flaenoriaeth ac mae'r rhain fel a ganlyn:
- Blaenoriaeth 1 – Rhoi i bobl ifanc sgiliau ar gyfer Dysgu a Chyflogaeth yn y Dyfodol
- Blaenoriaeth 2 – Cynyddu cyflogaetha mynd i’r afael ag Anweithgarwch Economaidd
- Blaenoriaeth 3 – Gwella lefelau sgiliau a gallu’r gweithlu i ymaddasu
- Blaenoriaeth 4 – Moderneiddio a Gwella Ansawdd ein Gwasanaethau Cyhoeddus
- Blaenoriaeth 5 – Cymorth technegol
Isod rhoddir dyraniad dangosol o'r cyllid yma yn erbyn y Blaenoriaethau. Dylid nodi mai dangosol yn unig yw'r dyraniadau ar lefel thema a byddant yn agored i newid dros hyd oes rhaglen.
Am fwy o wybodaeth ar y rhesymeg y tu ôl i'r rhain a’r gweithgareddau dangosol dylech gyfeirio at Raglen Weithredol ESF.
Mae’r Blaenoriaethau a’r themâu cysylltiedig yma yn sylfaen y Fframweithiau Strategol a ddatblygwyd mewn partneriaeth a maent yn helpu i gyfarwyddo ar y broses dewis prosiect.
Lawrlwytho Dogfen
Dolenni perthnasol
Dylai ymgeiswyr am gyllid Ewropeaidd uniongyrchol gan WEFO fod yn ymwybodol nad oes modd bellach gwneud datganiad newydd o ddiddordeb ar gyfer nifer o Flaenoriaethau a Themâu.
