Skip to content

Rhaglenni Cydgyfeirio

Rhaglenni Cydgyfeirio




Mae rhanbarth Gorllewin Cymru a’r Cymoedd wedi derbyn y lefel uchaf o gymorth, sy'n cael ei adnabod fel Cydgyfeirio, oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer cylch rhaglennu newydd y Cronfeydd Strwythurol 2007-2013.

Bydd Cydgyfeirio, sy'n olynydd i raglen Amcan 1 2000-2006 yn cynnwys ardal ddaearyddol 15  awdurdod lleol yn rhanbarth Gorllewin Cymru a’r Cymoedd.

Mae rhaglenni Cydgyfeirio ar gyfer Gorllewin Cymru a’r Cymoedd yn cynnwys cyllid o ddwy o Gronfeydd Strwythurol Ewrop:  Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) a Chronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).  Bydd tua £1 biliwn o gyllid ERDF yn helpu i symud ymlaen gweddnewid y rhanbarth i economi gynaliadwy a chystadleuol trwy fuddsoddi yn yr economi wybodaeth a helpu busnesau newydd a phresennol i dyfu.  Bydd hefyd yn canolbwyntio ar adnewyddu cymunedau mwyaf difreintiedig Cymru, mynd i'r afael â newid hinsawdd a gwella cludiant. Dros £690 miliwn o'r ESF yn cael ei ddefnyddio i ddelio ag anweithgarwch economaidd, cynyddu sgiliau a chyflogaeth. Gydag arian cyfatebol, bydd Cydgyfeirio yn gyrru buddsoddiad o £3.5 biliwn i Orllewin Cymru a’r Cymoedd.

Rhaglenni Gweithredol ar gyfer Cydgyfeirio ESF ac ERDF

Datblygwyd Rhaglenni Gweithredol ar wahân ar gyfer pob un o'r rhaglenni Cydgyfeirio ERDF ac ESF. Dogfennau cynllunio yw'r rhain sy'n dangos sut y bydd cyllid yn y rhanbarth. Mae'r dogfennau'n amlinellu’r Blaenoriaethau ar gyfer pob rhaglen sydd wedi’u seilio ar ddadansoddiadau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol o anghenion a chyfleoedd y rhanbarth, a meysydd gweithgaredd cymwys yn unol â Rheoliadau’r Comisiwn Ewropeaidd a Chyngor Ewrop.

Map o ardal Cydgyfeirio

08/10/09
Amlinellu ardaloedd y rhaglen.
 

Rhaglen Weithredol Cydgyfeirio ESF

27/03/09
Bydd rhaglen Cronfa Cymdeithasol Ewrop (ESF) yn defnyddio 40% o’r adnoddau o gyfanswm cyllid Cydgyfeirio. Golyga hyn cyfraniad grant o €833,585,460 (tua £695 miliwn) ac mae hynny, ynghyd ag arian cyfatebol, yn golygu cyfanswm buddsoddiad €1,500,307,489 (o tua £1.2 biliwn) ar gyfer y cyfnod ariannu ...
 

Rhaglen Weithredol Cydgyfeirio ERDF

27/03/09
Bydd rhaglen Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) yn defnyddio 60% o’r adnoddau o gyfanswm cyllid Cydgyfeirio. Golyga hyn cyfraniad grant o tua £1 biliwn ac mae hynny, ynghyd ag arian cyfatebol, yn golygu cyfanswm buddsoddiad €2,691,276,869 (o gwmpas £2.2 biliwn) ar gyfer y cyfnod ariannu 2007- ...
 

Dolenni perthnasol

Mae'r adran hon yn rhoi cyngor defnyddio i chi ar sut y gallwch elwa ar arian Ewropeaidd o dan y raglenni Cydgyfeirio a Chystadleurwydd a Chyflogaeth Rhanbarthol 2007-2013.
Rhoi Arian Cyfatebol i raglenni Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd 2007–2013
Mae elfen newydd o'r Rhaglenni Cronfeydd Strwythurol prif-ffrwd (2007-13) yn ein galluogi i gynnwys camau trawswladol a rhyngranbarthol mewn prosiectau.