Rhaglenni
Rhwng 2007 a 2013, bydd ein heconomi a phobl o bob cwr o Gymru'n elwa ar fuddsoddiad o fwy na £3.3 biliwn (cyllid UE o £1.9 biliwn) trwy raglenni Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd - gan greu swyddi a hybu twf economaidd.
Rhaglenni Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd 2007–2013 yng Nghymru
Ar gyfer cyfnod rhaglenni 2007–2013, mae Cymru yn gymwys ar gyfer cymorth y Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd ar gyfer tri math o raglen:- Cydgyfeirio sy’n cynnwys Gorllewin Cymru a’r Cymoedd
- Cystadleurwydd a Chyflogaeth Rhanbarthol sy’n cynnwys Dwyrain Cymru
- Cydweithredu Tiriogaethol, gan gynnwys rhaglen drawsffiniol Iwerddon/Cymru.
Cyflawni’r rhaglenni’n strategol ar gyfer creu swyddi ac ehangu
Mae’r rhaglenni yng Nghymru, sy’n cael eu darparu gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, yn canolbwyntio ar greu swyddi cynaliadwy a thwf a hynny’n unol ag agendâu Lisbon a Gothenburg yr Undeb Ewropeaidd a pholisïau a strategaethau Llywodraeth Cymru.Y mae agwedd mwy strategol i’r ffordd y caiff y rhaglenni eu cyflawni ar gyfer y cylch rhaglenni hwn, gyda llai o brosiectau mwy strategol yn cyflawni blaenoriaethau’r Rhaglenni Gweithredol. Bydd yr agwedd hon yn sicrhau nad oes cymaint o weithgareddau yn cael eu dyblygu a bod gymaint o adnoddau â phosibl ar gael er budd pobl, busnesau, cymunedau ac amgylchedd Cymru.
