Skip to content

URBAN II

URBAN II

Nod URBAN II, a oedd yn Gynllun Cymunedol a ariannwyd drwy ERDF, oedd hybu adfywio cymdeithasol ac economaidd cynaliadwy mewn ardal drefol.

Roedd URBAN II yn rhaglen a gynhaliwyd drwy Ewrop gyfan, a Gorllewin Wrecsam oedd yr unig ardal yng Nghymru oedd yn gymwys am brosiectau cymorth.

Cafodd y rhaglen ei chyflenwi a’i monitro mewn partneriaeth.

Mae detholiad o ddogfennau sy’n rhoi sylw i drefniadau gweithredu, canllawiau ac ymchwil ac adroddiadau cynnydd ar y rhaglen ar gael drwy gysylltu â Llinell Gymorth WEFO ar y rhif ffôn: 0845 010 3355 neu e-bostio: enquiries-wefo@wales.gsi.gov.uk