Amcan 3
Mae Amcan 3 yn brwydro yn erbyn diweithdra hirdymor; yn cynorthwyo pobl ifanc a’r rheini oedd mewn perygl o gael ei hallgáu o’r gweithlu; yn hyrwyddo cyfle cyfartal ac yn gwella sefyllfa menywod yn y gweithlu; yn hyrwyddo’r gallu i gyfaddasu ac entrepreneuriaeth yn y gweithlu; ac yn gwella hyfforddiant, addysg a chwnsela ar gyfer dysgu gydol oes.
Ariannwyd Amcan 3 drwy ESF. Ymrwymwyd tua £96 miliwn o grant yr UE i amrywiol brosiectau sy’n fuddsoddiad o £229 miliwn gyda’i gilydd mewn prosiectau yn Nwyrain Cymru.
Mae'r rhaglen yn cael ei chyflenwi a’i monitro mewn partneriaeth.
Mae detholiad o ddogfennau sy’n rhoi sylw i drefniadau gweithredu, canllawiau ac ymchwil ac adroddiadau cynnydd ar y rhaglen ar gael drwy gysylltu â Llinell Gymorth WEFO ar y rhif ffôn: 0845 010 3355 neu e-bostio: enquiries-wefo@wales.gsi.gov.u
