Amcan 2
Mae Amcan 2 yn cwmpasu’r ardaloedd yr effeithiwyd waethaf arnynt gan ddirywiad diwydiannol, lle na allai diwydiannau traddodiadol megis glo a dur, tecstilau ac adeiladu llongau gystadlu’n llwyddiannus mwyach, gan achosi anrhefn a chaledi cymdeithasol ac economaidd mawr i’r gweithlu lleol.
Ariannwyd rhaglen Amcan 2 drwy ERDF. Mae oddeutu £90 miliwn o grant yr UE wedi cael ei ymrwymo i amrywiol brosiectau sy’n fuddsoddiad o £291 miliwn gyda’i gilydd mewn prosiectau yn Nwyrain Cymru.
Cafodd y rhaglen ei chyflenwi a’i monitro mewn partneriaeth.
Mae detholiad o ddogfennau sy’n rhoi sylw i drefniadau gweithredu, canllawiau ac ymchwil ac adroddiadau cynnydd ar y rhaglen ar gael drwy gysylltu â Llinell Gymorth WEFO ar y rhif ffôn: 0845 010 3355 neu e-bostio: enquiries-wefo@wales.gsi.gov.uk
