Amcan 1
Nod Amcan 1 yw i leihau'r gwahaniaethau mewn amodau cymdeithasol ac economiad o fewn yr Undeb Ewropeaidd lle'r oedd ffyniant a fesurir mewn Cynnyrch Mewnwladol Crynswth (CMC), yn 75% neu lai o'r ffigur cyfartalog ar gyfer Ewrop.
Yng Nghymru, roedd Amcan 1 yn cwmpasu Gorllewin Cymru a'r Cymoedd (h.y. 15 ardal awdurdod lleol).
Ariannwyd rhaglen Amcan 1 drwy ERDF, ESF, EAGGF ac FIFG. Mae oddeutu £1.3 biliwn o arian grant wedi cael ei ymrwymo i amrywiol brosiectau sy’n fuddsoddiad o £3.2 biliwn gyda’i gilydd mewn prosiectau yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd.
Mae'r rhaglen yn cael ei chyflenwi a’i monitro mewn partneriaeth.
Mae detholiad o ddogfennau sy’n rhoi sylw i drefniadau gweithredu, canllawiau ac ymchwil ac adroddiadau cynnydd ar y rhaglen ar gael drwy â Llinell Gymorth WEFO ar y rhif ffôn: 0845 010 3355 neu e-bostio: enquiries-wefo@wales.gsi.gov.uk
