Nodyn Cyfarwyddyd Cau Rhaglenni 2000-2006
Cymhwysedd Gwariant ar Ddiwedd y Rhaglen
Diben
Mae'rNodyn Cyfarwyddyd hwn yn rhoi cyfarwyddyd i gyrff sy'n hawlio grant ganWEFO wedi i'r Rhaglen ddod i ben ar 31 Rhagfyr 2008.Rheoliadau
- Rheoliad y Comisiwn Ewropeaidd 1260/1999
- Rheoliad y Comisiwn Ewropeaidd 1685/2000
- Rheoliad y Comisiwn Ewropeaidd 448/2004
- Canllawiau'r Comisiwn Ewropeaidd ar Gau'r Rhaglen C (2006) 3424 (PE/1410/2006)
- Nodyn Deongliadol y Comisiwn Ewropeaidd CDRR/01/0069/01-EN
Y Cefndir
Byddcyfnod Rhaglen 2000 - 2006 yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2008. Mae angenrhoi cyfarwyddyd i sefydliadau sy'n derbyn grantiau i sicrhau mai dimond eitemau cymwys sydd yn yr hawliadau talu. Mae hyn er mwyn cwtogi'rrisg y bydd archwilwyr mewnol neu allanol yn gwrthod caniatáu gwariantyn ddiweddarach.Y Cyfarwyddyd
Er y bydd WEFO ynparhau i dalu hawliadau dilys ar ddechrau 2009, rhaid bod y gwariantcymwys cymeradwy a arweiniodd at yr hawliadau hynny yn seiliedig arwariant yn ystod cyfnod y rhaglen, h.y. wedi'i dalu erbyn 31 Rhagfyr2008 a'i gefnogi drwy anfonebau taledig neu ddogfennau o werthtystiolaethol cyfwerth yn ôl gofynion y Comisiwn Ewropeaidd RheoliadauMaehyn yn berthnasol i wariant y buddiolwr terfynol a'r derbynnyddterfynol. Yn y sefyllfa lle mae'r buddiolwr terfynol wedi talu'r granti dderbynnydd terfynol, cyfrifoldeb y buddiolwr terfynol yw dilysugwirionedd a chymhwysedd yr holl wariant sy'n cael ei hawlio cyn datgany gwariant i WEFO fel rhan neu'r cyfanrwydd o hawliad talu.
Nifydd unrhyw gostau sy'n cael eu talu ar ôl 31 Rhagfyr 2008 yn gymwys argyfer cymorth y Cronfeydd Strwythurol, a bydd rhaid i'r sefydliad eutalu.
Swyddog Cyswllt: Llinell Gymorth WEFO
