Skip to content

Gwiriadau rheoli Erthygl 30 (4)

Gwiriadau rheoli Erthygl 30 (4)

Mae rhaglenni 2000-2006 bellach ar gau. Fodd bynnag, mae dal yn ofynnol i Noddwyr Prosiectau ddangos bod manteision llawn y cyfarpar cyfalaf a/neu brosiectau adeiladu y derbyniwyd grant ar eu cyfer wedi parhau am o leiaf 5 mlynedd ar ôl cymeradwyo’r grant.

Yn ôl Erthygl 30 (4) o Reoliad 1260/1999 y Cyngor (CE):

Rhaid i Aelod-wladwriaethau sicrhau bod prosiect yn cael cadw’r cyllid o'r Cronfeydd ar yr amod nad yw’r prosiect hwnnw’n cael ei addasu’n sylweddol o fewn pum mlynedd ar ôl dyddiad penderfyniad yr awdurdodau cymwys cenedlaethol neu'r awdurdod rheoli:
a) mewn modd sy’n effeithio ar ei natur neu ei amodau gweithredu neu'n rhoi mantais annheg i gwmni neu gorff cyhoeddus;
b) oherwydd newid ym mherchnogaeth eitem o seilwaith neu fod gweithgarwch cynhyrchiol wedi dod i ben neu wedi newid lleoliad.

Mae'r gofyniad hwn yn ymwneud â phrynu neu greu asedau. Ni chaiff cyllid Cronfa Gymdeithasol Ewrop ei ddefnyddio at y dibenion hyn, ac felly mae holl brosiectau’r Gronfa honno wedi’u heithrio o’r gofyniad.

Bydd WEFO'n cynnal ymweliadau â sampl o brosiectau a gafodd grant ar gyfer gwaith cyfalaf drwy raglenni 2000-2006 i adolygu eu cydymffurfiaeth ag Erthygl 30(4).

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Thîm Arolygu a Dilysu Prosiectau WEFO .