LEADER+
Nod LEADER +, a oedd yn Gynllun Cymunedol a ariannwyd drwy EAGGF, oedd treialu dulliau gweithredu arloesol o safbwynt datblygu gwledig, gan gyfrannu at gymdeithas, economi ac amgylchedd mwy cynaliadwy i’r Gymru wledig. Roedd LEADER+, yn ogystal, yn ariannu prosiectau trawswladol.
Roedd gweithgareddau LEADER+ yng Nghymru yn rhoi sylw i dair prif thema:
- Gwella Ansawdd Bywyd mewn Cymunedau Gwledig;
- Ychwanegu Gwerth at gynhyrchion lleol; a
- Defnyddio adnoddau naturiol a diwylliannol yn y modd gorau posibl.
Cafodd y rhaglen ei chyflenwi a’i monitro mewn partneriaeth.
Mae detholiad o ddogfennau sy’n rhoi sylw i drefniadau gweithredu, canllawiau ac ymchwil ac adroddiadau cynnydd ar y rhaglen ar gael drwy gysylltu â Llinell Gymorth WEFO ar y rhif ffôn: 0845 010 3355 neu e-bostio: enquiries-wefo@wales.gsi.gov.uk
