EQUAL
Nod EQUAL, a oedd yn Gynllun Cymunedol a ariannwyd drwy ESF, oedd hybu ffyrdd newydd o frwydro yn erbyn gwahaniaethu ac anghydraddoldebau o bob math yn y farchnad lafur, ac fe’i hariannwyd drwy brosiectau trawswladol.
Roedd EQUAL hefyd yn cynnwys gweithredu i helpu i integreiddio ceiswyr lloches/ffoaduriaid yn gymdeithasol ac yn alwedigaethol.
Roedd EQUAL yn rhaglen a gynhaliwyd drwy Ewrop gyfan ac fe’i rhoddwyd ar waith ym Mhrydain Fawr dan arweiniad Adran Addysg a Chyflogaeth y DU.
Cafodd y rhaglen ei chyflenwi a’i monitro mewn partneriaeth.
Mae detholiad o ddogfennau sy’n rhoi sylw i drefniadau gweithredu, canllawiau ac ymchwil ac adroddiadau cynnydd ar y rhaglen ar gael drwy gysylltu â Llinell Gymorth WEFO ar y rhif ffôn: 0845 010 3355 neu e-bostio: enquiries-wefo@wales.gsi.gov.uk
