Prosiect Ymchwil Themâu Trawsbynciol (Amcanion 1 a 3)
Ceir dau ddull o weithredu’r Themâu: integreiddio fertigol, lle mae nifer o raglenni unigol yn canolbwyntio’n benodol ar hyrwyddo’r Themâu; ac integreiddio llorweddol, lle mae pob prosiect yn hyrwyddo’r Themâu, hyd yn oed os nad yw’r prosiect yn canolbwyntio’n ganolog ar y themâu penodol hynny.
Gwnaed ymdrech sylweddol i integreiddio’r Themâu i’r broses o roi’r Rhaglenni ar waith ac o ganlyniad, roedd WEFO o’r farn ei bod yn bwysig iawn gwerthuso manteision ehangach y dull hwn o weithredu, gan ganolbwyntio’n benodol ar ddysgu gwersi ar gyfer y dyfodol.
Er mwyn rhoi ffocws penodol i’r broses werthuso, canolbwyntiwyd ar Raglenni Amcan 1 a 3 – roedd hyn yn sicrhau bod Cymru gyfan wedi’i chynnwys, ynghyd â’r pedair Cronfa Strwythurol (ERDF, ESF, EAGGF a FIFG).
