Skip to content

Rhaglenni 2000-2006 y Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru

Rhaglenni 2000-2006 y Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru

Ar gyfer cyfnod rhaglenni 2000-2006 dyfarnwyd i Gymru dros £1.5 biliwn o arian Ewropeaidd, ac mae'r arian hwn ac arian cyfatebol o amrywiol ffynhonellau gyda'i gilydd wedi cynhyrchu dros £3.8 biliwn o fuddsoddiad mewn prosiectau yng Nghymru.

Mae dal modd i chi weld y gronfa ddata o Raglenni 2000-2006 a Gymeradwywyd.

Bywydau'r Rhaglenni

Yn ystod eu bywydau, disgwylir i'r rhaglenni hyn greu 46,000 o swyddi ychwanegol, cynorthwyo dros 200,000 o fusnesau a chynorthwyo rhyw 96,000 o bobl ddi-waith neu bobl sy'n economaidd anweithgar i ddod o hyd i waith neu hyfforddiant.

Roedd angen i’r holl brosiectau roi sylw i’r tair thema drawsbynciol sef cyfle cyfartal, cynaliadwyedd amgylcheddol a thechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu er mwyn sicrhau economi gytbwys ac arloesol.

Daeth rhaglenni Amcan 1,2 and 3 yng Nghymru i ben ar 30 Mehefin 2009.

Yn y cyfamser, daeth y mentrau cymunedol bach Equal, Interreg IIIA, Leader+, a Urban II i ben ar 31 Rhagfyr 2008.

Mae manylion cyflawniadau eraill a chyhoeddusrwydd rhaglenni 2000-2006 hefyd ar gael.