Skip to content

Cadwch mewn cysylltiad

Cadwch mewn cysylltiad

Cadwch mewn cysylltiad

Mae WEFO wedi lansio cyfrifon Twitter i’w gwneud yn haws ichi gael yr wybodaeth a’r newyddion diweddaraf yn ymwneud â rhaglenni Cronfeydd Strwythurol yr UE.

Gallwch ddilyn ni drwy fynd i’r ddolen ganlynol www.Twitter.com/wefowales  neu www.Twitter.com/wefocymru. Trwy wneud hyn gallwch glywed y newyddion diweddaraf ynghylch rhaglenni 2007-2013 a’r datblygiadau ynghylch rhaglenni’r UE yn 2014-2020.

Trwy Twitter cewch fod ymysg y cyntaf i glywed y newyddion diweddaraf, sy’n cynnwys cyhoeddiadau ynghylch prosiectau, digwyddiadau a llwyddiannau’r rhaglenni.
Cewch hefyd eich hysbysu ynghylch unrhyw gynnwys newydd ar wefan WEFO gan gynnwys canllawiau ar gyfer noddwyr a phapurau’r Pwyllgor Monitro Rhaglenni Cymru Gyfan.

Ewch ati ar unwaith i ymuno â ni ar Twitter heddiw, a chewch wybod rhagor am gyllid yr UE!

Hefyd, i dderbyn ein cylchlythyr (EU4U) neu i barhau i dderbyn ein cylchlythyr, ewch i’n tudalen gofrestru newydd.  Cylchlythyr a gyhoeddir bob deufis yw EU4U sy’n cyflwyno’r newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf am gyllid yr UE.