Canolfan fwyd Gogledd Cymru yn hybu rhagoriaeth
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Rhaglenni Ewropeaidd, Alun Davies:
“Bydd y cyllid gan Lywodraeth Cymru a’r UE ar gyfer y ganolfan ragoriaeth newydd hon yn Fferm Ffwrnais yn helpu i hybu bwyd lleol yn ogystal â chreu swyddi yn yr economi leol a denu ymwelwyr i’r ardal hyfryd hon o Gymru.”
Mae’r ganolfan yn gyfle i arddangos cynnyrch Cymreig o ansawdd da ac yn cryfhau’r cysylltiadau rhwng y prosesau cynhyrchu a phrosesu a’r cwsmeriaid. Rwy’n gobeithio y bydd yn helpu i roi dyfodol mwy cynaliadwy i ffermwyr a thyfwyr cnydau.
Caiff Canolfan Bwyd Cymru, Bodnant sydd werth £6.5m, ei hagor gan Dywysog Cymru a Duges Cernyw ddydd Llun 9 Gorffennaf, yn ystod ymweliad blynyddol y cwpl Brenhinol â Chymru.
Cafodd y ganolfan, sydd ar ystâd odidog Bodnant yn Nyffryn Conwy, gymorth ariannol gwerth bron i £3m gan Lywodraeth Cymru o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a’r Gronfa Arian Cyfatebol a Dargedir a thrwy Grant Prosesu a Marchnata o dan y Cynllun Datblygu Gwledig.
Mae’r cyllid wedi helpu i adnewyddu ac ailwampio adeiladau fferm o’r ddeunawfed ganrif i greu canolfan neilltuol ar gyfer arddangos cynnyrch lleol rhagorol o bob rhan o Gymru.
Hyd yn hyn mae Bwyd Cymru Bodnant wedi cyflogi mwy na 60 o weithwyr, yn bennaf o’r ardal leol, a disgwylir i gannoedd o filoedd o ymwelwyr ymweld â’r ganolfan gan greu mwy o fanteision economaidd i’r ardal.
Bu penseiri lleol, Capita Symonds o Fae Colwyn, a’r contractwr K&C Construction o Fae Cinmel yn adeiladu’r ganolfan.
Mae yno siop fferm fawr sy’n gwerthu pob math o gynnyrch Cymreig, ac mae ystafell de, tŷ bwyta, llaethdy, siop fara ac ysgol goginio hefyd.
Cafodd un o’r un gweithwyr, Neil Davies, ei fagu dair milltir o’r safle ac erbyn hyn mae’n gweithio fel cynorthwyydd marchnata yn Fferm Ffwrnais.
Dywedodd:
“Dyma fy swydd gyntaf ers i mi raddio a ’dwi’n teimlo mor lwcus ac yn falch fy mod wedi cael y cyfle i fentro ar yrfa mewn lle y bydd yr ardal leol yn elwa ohono. Mae swyddi fel hyn yn brin mewn ardaloedd gwledig fel Gogledd Cymru, yn enwedig yn y sefyllfa economaidd sydd ohoni.
“Am i mi dyfu i fyny yn yr ardal leol, mae’r gymuned yn bwysig iawn i mi ac mae’n wych medru dweud wrth bobl bod y rhan fwyaf o’r cynnyrch rydyn ni’n ei werthu yn y siop fferm yn dod o’r ardal hon sy’n ffantastig i’r economi leol.”
Yn ystod ei gyfnod ym Modnant, bydd y Dirprwy Weinidog hefyd yn ymweld â Chanolfan Genedlaethol Cadw Gwenyn Cymru sydd ar y safle ac yn mynd i’r seremoni lle bydd Tywysog Cymru’n dadorchuddio plac i nodi ei ymweliad.
