Skip to content

Ymgynghoriad ar ddyfodol Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd a Chronfeydd Datblygu Gwledig

Ymgynghoriad ar ddyfodol Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd a Chronfeydd Datblygu Gwledig

Baner yr UE

Daeth yr ymarfer ymgynghori i ben ar 23 Ebrill. Mae'r ymatebion yn cael eu dadansoddi ar hyn o bryd gan ymgynghorwyr annibynnol a bydd ymateb gan Llywodraeth Cymru yn cael ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf.

Bydd hyn yn amlinellu'r camau nesaf o ran cytuno ein rhaglenni gweithredol a'r trafodaethau a fydd yn digwydd gyda'r Comisiwn Ewropeaidd.

Cawsom 125 o ymatebion, gan gynnwys y rhaglenni Dwyrain Cymru a Gorllewin Cymru a'r Cymoedd, wedi eu torri i lawr fel a ganlyn:

Sector Preifat 17
AB / AU 18
Cyhoeddus 42
Trydydd 36
Arall 12

Cyfanswm 125

Cliciwch ar y ddolen isod i weld yr ymgynghoriad ar y Cronfeydd Strwythurol:

Cymru a’r UE: Partneriaeth ar gyfer Swyddi a Thwf Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd 2014–2020 (dolen allanol)

Hefyd, os ydych am weld y Cynllun Datblygu Gwledig (Colofn 2 y PAC), cliciwch ar y ddolen ganlynol: 

Cynllun Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020 (dolen allanol)

Yn unol â pholisïau a strategaethau Ewrop 2020 a Llywodraeth Cymru, nod rhaglenni’r dyfodol fydd creu’r amodau ar gyfer twf economaidd synhwyrol, cynaliadwy a chynhwysol, gyda diwydiant amaethyddol sy’n gryf, yn gynaliadwy ac sy’n gallu cefnogi cymunedau gwledig llewyrchus. I’n helpu i gyflawni hyn, ymhlith y blaenoriaethau ar gyfer Cronfeydd Strwythurol y dyfodol mae sgiliau, helpu pobl i gael gwaith, cystadleurwydd rhwng mentrau a BBaChau, defnyddio ynni'n effeithlon a’r economi ddigidol. O ran y Cronfeydd Datblygu Gwledig, y blaenoriaethau yw diogelu’r amgylchedd a defnyddio adnoddau yn effeithlon, addasu i’r newid yn yr hinsawdd, datblygu lleol dan arweiniad y gymuned ac adnewyddu cymunedau gwledig.

Mae’n debygol y bydd Cymru yn gymwys am gyllid yr UE yn ystod y cyfnod 2014-2020. Caiff yr union ddyraniadau cyllid eu cadarnhau ar ôl i gyllideb yr UE gael ei chymeradwyo o fewn y misoedd nesaf.

Daw’r ymgynghoriad ar gyfer y ddwy raglen i ben ar 23 Ebrill, ac mae disgwyl i’r rhaglenni gael eu cyflwyno i’r Comisiwn Ewropeaidd i’w trafod ac i gytuno arnynt yn ddiweddarach yn 2013.

I gael rhagor o wybodaeth neu i fynd i ddigwyddiad, cysylltwch â: tîm cyfathrebu WEFO.

Cyfleoedd cyfartal a chynaliadwyedd yn rhaglenni’r UE

Mae dau ymgynghoriad arall, gyda'r nod o sicrhau cyfleoedd cyfartal a chynaliadwyedd amgylcheddol yn rhaglenni'r dyfodol wedi dechrau. Asesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb ac Asesiadau o'r Effaith Amgylcheddol yw'r rhain, ac maent yn cael eu paratoi ar gyfer Cronfa Gymdeithasol Ewrop, Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a'r Cynllun Datblygu Gwledig.

Mae'r dogfennau ymgynghori ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru:

Y nod yw casglu barn partneriaid a rhanddeiliaid o bob sector er mwyn nodi'r cyfleoedd i hyrwyddo cydraddoldeb a chynaliadwyedd amgylcheddol.