Cyllid newydd ar gyfer cynhesu cartrefi a chynorthwyo busnesau
Bydd y Gweinidog John Griffiths yn annerch gosodwyr ynni adnewyddadwy o bob rhan o Dde Cymru ddydd Gwener 8 Mehefin. Bydd yn siarad yn ystod digwyddiad ehangach sy’n cynnig cyngor a gwybodaeth i fusnesau Cymru ynghylch sut y gallant gyflwyno tendrau ar gyfer contractau gwerthfawr sy’n gysylltiedig ag ail gam arbed.
Bydd £45m yn cael ei fuddsoddi yn ystod ail gam arbed er mwyn sicrhau bod tua 4800 o gartrefi ychwanegol yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru yn defnyddio ynni’n fwy effeithlon. Caiff y cynllun ei ariannu’n rhannol gan gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.
Buddsoddwyd dros £66 miliwn ar fesurau i sicrhau bod 7500 o gartrefi ychwanegol yng Nghymru yn defnyddio ynni’n fwy effeithlon yn ystod cam cyntaf arbed.
Dywedodd y Gweinidog cyn y digwyddiad:
“Mae’r ffaith bod prisiau tanwydd yn parhau i godi yn golygu bod yn rhaid i ni wneud popeth posibl i sicrhau bod cartrefi Cymru yn barod at y dyfodol.
“Yn yr un modd â cham cyntaf arbed, bydd ail gam y rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop yn helpu i sicrhau bod mesurau arbed ynni ac ynni adnewyddadwy yn cael eu gosod mewn cartrefi o fewn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. Bydd y mesurau hyn yn cynnwys inswleiddio waliau solet, boeleri sy’n defnyddio ynni’n effeithlon a phaneli solar.
“Bydd hyn yn helpu i sicrhau ei bod hi lawer yn haws ac yn rhatach i gynhesu bron i 5000 o gartrefi yng Nghymru. Mae’r gwaith hwn yn rhan annatod o’n hymdrechion i fynd i’r afael â thlodi tanwydd, sy’n broblem ddifrifol iawn.
“Bydd ail gam arbed hefyd yn rhoi cryn hwb i economi Cymru drwy greu cyfleoedd i fusnesau Cymru ddylunio, gweithgynhyrchu, dosbarthu, gosod a chynnal y dechnoleg angenrheidiol ar gyfer defnyddio ynni adnewyddadwy a defnyddio ynni’n fwy effeithlon.
“Bydd hyn, yn ei dro, yn golygu y bydd rhagor o gyfleoedd o ran hyfforddiant a gwaith ar gyfer gweithwyr lleol o fewn rhai o’n hardaloedd llai cyfoethog. Bydd yn sicr yn newydd da iawn i Gymru.”
Yn ystod cam cyntaf arbed cafodd 70% o’r cynnyrch a osodwyd eu gweithgynhyrchu yng Nghymru ac roedd dros 80% o’r gosodwyr wedi’u lleoli’n rhannol neu’n gyfan gwbl yng Nghymru. Trwy gynnal y digwyddiadau yng Ngogledd a De Cymru mae Llywodraeth Cymru’n gobeithio sicrhau y bydd busnesau Cymru’n elwa ar gyfran hyd yn oed mwy o’r gwaith sy’n gysylltiedig ag ail gam arbed.
Cyhoeddodd y Gweinidog yn ogystal y byddai dau reolwr cynllun yn gyfrifol am gyflawni ail gam arbed sef; Melin Homes yn y De a Wilmott Dixon yn y Gogledd a’r Canolbarth.
