Skip to content

£2.5 miliwn i gynllun arloesol er mwyn helpu cymunedau i ffynnu

£2.5 miliwn i gynllun arloesol er mwyn helpu cymunedau i ffynnu

Gwirfoddolwyr Timebanking

Heddiw cyhoeddwyd bod prosiect £2.5 miliwn sydd a’i nod ar greu diwylliant o fentergarwch a chynyddu ffyniant ymysg cymunedau mewn tair sir yn y De wedi cael hwb ariannol gan yr Undeb Ewropeaidd.

O dan arweiniad Timebanking Wales, bydd y prosiect yn gwahodd pobl yn ardaloedd Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Phen-y-bont ar Ogwr i ymuno â Rhwydweithiau Mentrau Cymunedol a derbyn arolwg o sgiliau er mwyn darganfod a oes ganddyn nhw dalentau cudd y gallan nhw eu defnyddio yn eu hardaloedd.

Bydd y rheini fydd yn ymuno â'r Rhwydweithiau Mentrau Cymunedol yn cael cydnabyddiaeth am hynny trwy gredydau amser sy'n cyfateb i'r amser y byddan nhw'n ei dreulio yn defnyddio eu sgiliau. Yna, gellir cyfnewid y credydau hyn am amser cyfatebol ar weithgareddau addysgol a diwylliannol gan ddatblygu sgiliau newydd i wella'u galluoedd a'u cyfloedd gwaith.

Disgwylir y bydd rhai o'r unigolion fydd yn cymryd rhan yn y prosiect yn mynd ati i sefydlu eu mentrau cymdeithasol eu hunain er mwyn gallu parhau i ddarparu gwasanaethau yn eu cymunedau - gwasanaethau fel diwydiannau creadigol, arlwyo, tirweddu a mentrau amgylcheddol.

Daw £1.8 miliwn o'r cyllid oddi wrth Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy law Llywodraeth Cymru a daw gweddill yr arian gan y Rhwydweithiau fydd yn cymryd rhan.

Wrth wneud y cyhoeddiad, dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Raglenni Ewropeaidd, Alun Davies:

"Mae datgloi potensial pobl yn ein cymunedau'n hanfodol iddynt allu ffynnu yn y dyfodol, creu mentrau sy'n torri tir newydd ac sy'n darparu gwasanaethau lleol a helpu'r economi gymdeithasol i dyfu.

"Rwy'n hapus iawn ein bod wedi gallu buddsoddi arian o Ewrop yn y fenter hon fydd yn annog diwylliant o fentergarwch yn lleol trwy ddod o hyd i sgiliau a doniau cudd y bobl sy'n byw yn y cymunedau hyn.

"Gan edrych ymlaen, rwy'n benderfynol o sicrhau ein bod yn gwneud y defnydd gorau posibl o unrhyw arian a gawn gan Ewrop yn y dyfodol ar gyfer datblygu prosiectau arloesol, ansawdd uchel sy'n creu swyddi.  Mae'n bwysig bod y broses o wneud cais am arian yn un hawdd."

Dywedodd Geoff Thomas, Prif Weithredwr Timebanking Wales:

"Daw diwydiannau trwm fyth yn ôl i ardaloedd ôl-ddiwydiannol Cymoedd y De ac ni fyddan nhw byth eto'n ddibynnol ar ddulliau gweithgynhyrchu ysgafn.  Yr her yw meithrin a hybu diwylliant newydd o dwf cynhenid sy'n arwain at greu cyfoeth.  Y bobl, ac o roi'r cyfle iawn iddynt, eu gallu i greu'r dyfodol, yw'r gwir gyfoeth sy'n parhau yng Nghymoedd y De."