Skip to content

Menywod yn llwyddo mewn busnes diolch i brosiect gan yr Undeb Ewropeaidd

Menywod yn llwyddo mewn busnes diolch i brosiect gan yr Undeb Ewropeaidd

Sioned Medi Evans

Mae prosiect sy’n cael ei ariannu gan yr Undeb Ewropeaidd ac yn helpu pobl ifanc ar draws y Gogledd-orllewin i dreialu eu syniadau busnes yn boblogaidd iawn ymysg menywod.

Mae prosiect Llwyddo’n Lleol, sy’n werth £3.8m ac sy’n cael ei arwain gan Gyngor Sir Gwynedd ar y cyd ag awdurdodau lleol Ynys Môn, Conwy a Sir Ddinbych, wedi gweld cynnydd yn nifer y menywod ifanc sy’n dewis dilyn llwybr hunan gyflogaeth.

Hyd yma, mae’r prosiect hwn, sy’n cael ei gefnogi gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru, wedi rhoi bwrsariaeth i 62 o bobl ifanc ac mae 58 ohonynt yn fenywod.

Un sydd wedi cael budd o’r prosiect yw Sioned Medi Evans sy’n 18 oed ac sy’n dod o Garn Fadryn ym Mhenrhyn Llŷn.  Mae hi wedi cael arian gan y prosiect i sefydlu busnes gemwaith.  Dechreuodd trwy ddatblygu cynllun busnes a chyda’r fwrsariaeth gan Llwyddo’n Lleol, roedd yn gallu prynu deunyddiau a dechrau cynhyrchu gemwaith enamel gan gynnwys cadwyni, clustdlysau a breichledi. 

Dywedodd Sioned:

“Mae’r help yr wyf wedi’i gael gan Llwyddo’n Lleol wedi bod yn rhagorol.  Hebddo, fyddwn i ddim wedi gallu meddwl am ddechrau busnes heb sôn am ei sefydlu gan fod popeth mor gostus ond gyda’r cyngor a’r gefnogaeth a gefais gan swyddogion y prosiect, roedd y broses ymgeisio yn rhwydd iawn.”

Mae Llwyddo’n Lleol yn helpu unigolion a grwpiau ar draws y Gogledd-orllewin sydd rhwng 11 a 19 mlwydd oed trwy gynnig bwrsariaeth iddynt i’w helpu i roi syniadau mentrus ar waith ac i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i sefydlu busnes.  Mae modd defnyddio’r bwrsariaethau hyn i ddatblygu prosiectau, i helpu gyda chostau hyfforddi, i ddatblygu gwefan neu hyd yn oed i rentu safle busnes.

Dywedodd Sioned Williams, Pennaeth Datblygu’r Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd:

“Yn draddodiadol, mae menywod yn llai tebygol o sefydlu busnesau eu hunain.  Mae’n bosibl y byddai llawer ohonynt yn dewis chwilio am waith y tu allan i’w hardaloedd lleol.  Nod y prosiect yw creu diwylliant o fentro ymysg y bobl ifanc sy’n cymryd rhan ac rydym yn hapus iawn ein bod yn cynorthwyo llu o fenywod ifanc i lwyddo yn eu cymunedau eu hunain.”

Yn ogystal â bwrsariaethau, mae’r prosiect yn rhoi help a chymorth i bobl ifanc ddod o hyd i waith mewn sectorau lleol sy’n tyfu ac i gael y sgiliau allweddol sydd eu hangen arnynt i symud i fyd gwaith neu hunan gyflogaeth.

Dywedodd Alun Davies, y Dirprwy Weinidog Rhaglenni Ewropeaidd:

“Rwy’n hapus bod y fenter hon sy’n cael ei chefnogi gan arian o Ewrop yn rhoi’r plwc i bobl ifanc fentro i fyd busnes a’u galluogi i droi syniadau arloesol yn realiti masnachol a rhoi bywoliaeth iddynt a ffyniant i’w cymunedau.”

Dywedodd Sioned:

“Dechreuodd fy niddordeb mewn gemwaith pan oeddwn yn blentyn ac fe es i Goleg Meirion-Dwyfor, Pwllheli i astudio Dylunio a Thechnoleg.  Gyda chymorth Llwyddo’n Lleol, rwyf wedi gallu troi hobi yn fusnes ac rwyf wedi’i alw’n ‘Sioned Medi’.  Cyn cael yr arian, roeddwn yn gwneud gemwaith gyda hen ddeunyddiau ond nawr, rwy’n gallu prynu deunyddiau i wneud gemwaith ymarferol ac unigryw."