Cymru’n Croesawu Comisiynydd Ewropeaidd
Yn ystod ei ymweliad, gwnaeth y Comisiynydd, sy’n gyfrifol am bolisi rhanbarthol a chronfeydd strwythurol, cwrdd â Gweinidogion Cymru ac ymweld ag amrywiaeth o brosiectau sydd wedi cael cymorth cyllid Ewropeaidd.
Dyma ymweliad cynta’r Comisiynydd â Chymru ac erbyn hynny, bydd Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi bron i £1.6 biliwn o arian Ewropeaidd ar draws y wlad ers i’r cylch ceisiadau presennol ddechrau nôl yn 2007.
Mae’r ymweliad yn dilyn trip Prif Weinidog Cymru i Frwsel ym mis Chwefror eleni i gryfhau cysylltiadau Cymru ag Ewrop ymhellach.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru:
"Mae’n bleser croesawu’r Comisiynydd Hahn i Gymru a chael y cyfle i drafod cyfleoedd i gynnal a datblygu cysylltiadau Cymru ag Ewrop.
"Mae’r ffaith ei fod wedi dod yma’n arwydd clir bod cydweithio ag Ewrop yn fanteisiol ac rwyf am i’r berthynas weithio agos sydd gennym barhau.
"Mae manteision gwirioneddol i fod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd. Ewrop yw un o’n partneriaid masnach mwyaf; mae’n gyrchfan i nwyddau a gwasanaethau Cymru. Mae cyllid Ewrop yn ein helpu i gynorthwyo busnesau a chymunedau ledled y wlad. Rwyf am weld y manteision hyn yn parhau i ffynnu ac economi Cymru yn cael ei chefnogi."
Tra yng Nghymru, gwnaeth y Dirprwy Weinidog Rhaglenni Ewropeaidd, Alun Davies, yn dangos i’r Comisiynydd sut mae arian Ewropeaidd yn cael ei fuddsoddi yn Sefydliad y Gwyddorau Bywyd 2 ym Mhrifysgol Abertawe, cyfleuster ymchwil meddygol modern iawn sy’n gartref i brosiect arloesol Canolfan Nanoiechyd. Gwnaeth y Comisiynydd hefyd cwrdd â phobl ifanc mewn gweithdy rhaglennu cyfrifiadurol sy’n rhan o brosiect arall sydd wedi cael cyllid gan yr UE sef Technocamps. Nod y prosiect hwn yw ceisio annog pobl ifanc i astudio pynciau ym maes Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg er mwyn gwella eu rhagolygon am waith.
Hefyd, gwelodd y Comisiynydd datblygiad SA1 y Glannau lle mae’r gwaith o adfywio dociau Abertawe wedi gwneud y ddinas yn lle bywiog i fyw ac i weithio ynddi, diolch i arian gan yr Undeb Ewropeaidd.
Dywedodd Alun Davies, y Dirprwy Weinidog Rhaglenni Ewropeaidd:
"Rydym ni wedi ymrwymo i ofalu bod ein rhaglenni Ewropeaidd ymhlith y mwyaf llwyddiannus yn yr UE o ran creu’r amodau ar gyfer creu swyddi a thwf cynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Mae prosiectau’r Undeb Ewropeaidd, sy’n cael eu cynnal ar y cyd, eisoes wedi helpu dros 86,500 o bobl i ennill cymwysterau a 36,500 o bobl i gael hyd i waith. Hefyd, mae 11,000 o swyddi (gros) wedi cael eu creu a 2,150 o fentrau wedi cael eu sefydlu. Rwy’n hapus i ddangos i’r Comisiynydd Hahn rhai o’r ffyrdd arloesol yr ydym yn eu defnyddio i fuddsoddi arian Ewrop yma yng Nghymru."
