Welsh Government investigation into AWEMA
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal ymchwiliad, a gomisiynwyd ar y cyd â’r Gronfa Loteri Fawr, i bennu a yw’r arian cyhoeddus a ddarparwyd i Gymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan (AWEMA) gan Lywodraeth Cymru, WEFO a’r Loteri Fawr wedi’i ddiogelu’n briodol.
Mae’r ymchwiliad wedi nodi diffygion sylweddol yn nulliau rheoli, gweithdrefnau ariannol a threfniadau llywodraethu AWEMA. O ganlyniad, mae’r ymchwiliad yn cwestiynu a oedd y gwariant o gyllid yr UE yn gymwys. Os nad oedd yn gymwys, byddai hynny’n peryglu cyllid yr UE.
http://wales.gov.uk/topics/equality/publications/awemareport/?skip=1&lang=cy
Prosiectau UE a gynhelir gan AWEMA
Cysylltodd WEFO ag AWEMA (9 Chwefror) i’w hysbysu o’u penderfyniad i ddiddymu cytundebau’r prosiectau UE ar unwaith.
Bydd y penderfyniad yn effeithio ar y prosiectau canlynol:
- Prosiect gwerth £2.2m ‘Pobl Ifanc o Leiafrifoedd Du ac Ethnig yn anelu’n uchel‘(£1.5m o);
- Prosiect gwerth £3.7m ‘Cyflogaeth i Bawb o Leiafrifoedd Du ac Ethnig’ (£2m Gronfa Gymdeithasol Ewrop)
- Prosiect gwerth £2.3m ‘Lleiafrifoedd yw Adnoddau Cymru (MAWR) (£1.5m o Gronfa Gymdeithasol Ewrop)
Roedd y tri phrosiect UE yn cael eu cyflenwi drwy bartneriaeth gydweithredol. AWEMA oedd y prif noddwr ac roedd nifer o gyd-noddwyr, gan gynnwys Cyngor Cydraddoldeb Hiliol y Cymoedd (VALREC), Rhwydwaith Cydraddoldeb Hiliol Gogledd Cymru (NWREN), Cefnogi Eraill drwy Weithredu Gwirfoddol (SOVA), YMCA Abertawe; YMCA Cymru; a’r Rhwydwaith Menywod o Leiafrifoedd Ethnig (MEWN).
Bydd WEFO’n cynnal cyfarfodydd â’r cyd-noddwyr hyn dros y dyddiau nesaf i drafod yr opsiynau o ran diogelu’r gweithgareddau sy’n digwydd ar hyn o bryd i gyflawni’r prosiectau UE a sicrhau bod y gefnogaeth yn parhau i bobl sy’n cael eu helpu gan y prosiectau hyn.
Cyngor a chefnogaeth i’r buddiolwyr
Mae tîm Cronfa Gymdeithasol Ewrop WEFO yn Aberystwyth wedi agor llinell gymorth bwrpasol ar gyfer unrhyw gyfranogwyr neu fuddiolwyr sy’n bryderus ynghylch parhad y prosiectau UE.
Rhif ffôn: 03000 622 080
Ebost: enquiries-wefo@cymru.gsi.gov.uk
Trydar: www.twitter.com/wefocymru
