Skip to content

Kirstie Sacre (gwella sgiliau a hyfforddiant)

Kirstie Sacre (gwella sgiliau a hyfforddiant)

Kirstie Sacre

Mae’r prosiect Pontydd i Waith, sy’n werth £19m ac yn cael cyllid werth £10.5m gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop yn helpu Kirstie Sacre o Dredegar i fod yn athrawes ysgol gynradd.

Trwy’r cynllun, dechreuodd Kirsty ar gwrs Cyngor Dyfarniadau mewn Gofal ac Addysg Plant (CACHE) yng Nghanolfan Dysgu Gweithredol Brynmawr er mwyn bod yn gynorthwyydd addysgu. Fel rhan o’r cwrs, mae’n mynychu gwersi wythnosol gyda’r nos, yn ogystal â lleoliad 120 awr mewn ysgolion cynradd yn yr ardal.  Ar ôl iddi gwblhau’r cwrs, ei gobaith yw mynd i’r brifysgol i astudio addysg gynradd. 

Dywedodd:

Mae’r ffordd y mae’r prosiect yn rhoi cyfle i bobl fel fi gael gwaith yn wych. Fydden i byth wedi credu y gallen i gyflawni hyn i gyd, rwy'n fwy hyderus ac yn edrych ymlaen at ddechrau yn y Brifysgol.

Caiff y prosiect ei arwain gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen mewn partneriaeth â phum awdurdod lleol eraill (Blaenau Gwent, Caerffili, Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont aOgwr, a Merthyr Tudful). Mae’n darparu cyfleoedd addysg a hyfforddiant lleol yn rhad am ddim er mwyn helpu mwy o bobl i ddod o hyd i waith.