Rhydyfelin (rheoli'r amgylchedd)
Bydd mwy na 135 o adeiladau agored i lifogydd yn cael budd o greu man storio dŵr llifogydd, gan gynyddu capasiti cwlferi trwy osod pibellau lliniaru a gosod gridiau malurion er mwyn eu hatal rhag cael eu rhwystro. Mae’r cynllun yn cael ei gyflawni gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a gefnogir gan £36m oddi wrth Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.
Meddai un o’r trigolion lleol, Ashley Williams:
Rwy wedi cael llifogydd yn fy nghartref droeon ac rwy ofn mynd mas pan mae’n bwrw glaw rhag ofn i fy nhŷ gael ei ddifrodi. Mae’r mesurau hyn yn dod â llawer o dawelwch meddwl i’n cymuned sydd wedi dioddef trallod gweld eu cartrefi’n cael eu dinistrio dros y blynyddoedd.
Mae’r Rhaglen yn cael ei harwain gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a’i chyflawni mewn partneriaeth gan Asiantaeth yr Amgylchedd, awdurdodau lleol a sefydliadau eraill. Rhagwelir y bydd y rhaglen yn cynorthwyo ag oddeutu 20 cynllun unigol a fydd yn diogelu mwy na 2,700 o bobl.
